O Gaerffili i Galiffornia: Profiad dyn o baratoi caeau ar gyfer Cwpan y Byd
Mae aelod o’r tîm sy’n gofalu am y cae yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd wedi helpu i baratoi un o leoliadau Cwpan y Byd FIFA 2026.
Fe fu Rhys Cleverly, yn gweithio ochr yn ochr gydag arbenigwyr arwyneb caeau yn Stadiwm SoFi yn Los Angeles.
Yn ystod ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau, roedd Rhys wedi cymryd rhan mewn paratoadau ar gyfer gemau pêl-droed rhyngwladol Cwpan y Byd ac wedi cefnogi'r gwaith ar system cae glaswellt hybrid arloesol Stadiwm SoFi.
Roedd y stadiwm wedi newid o wyneb artiffisial traddodiadol ar gyfer yr NFL i gae glaswellt naturiol a ddyluniwyd i fodloni gofynion Cwpan y Byd FIFA.
Yn wreiddiol o Gaerffili, mae angerdd Rhys dros gynnal arwynebau chwarae yn ymestyn y tu hwnt i'w rôl yn Stadiwm Principality.
Mae'n ymwneud yn helaeth â'i glwb rygbi lleol, Caerffili RFC, gan helpu i gynnal tiroedd y clwb a hyfforddi'r tîm ieuenctid hefyd, gan gyfrannu at y gêm ar lefel gymunedol yn ei ardal.
Dywedodd Rhys: "Mae'n gyfle gwych i fod yn rhan o brosiect o'r maint hwn. Mae Stadiwm SoFi yn paratoi i gynnal rhai o'r gemau mwyaf ym myd chwaraeon, ac mae wedi bod yn wych gweithio ochr yn ochr â thimau gofalu am y cae ac arbenigwyr talentog o bob rhan o'r diwydiant.
"Er fy mod wedi gallu rhannu rhywfaint o'r profiad a'r wybodaeth rydym wedi'u datblygu yn Stadiwm Principality, rydw i hefyd wedi bod yn dysgu gan rai o'r bobl orau yn y maes ac yn cael profiad o dechnolegau, systemau a dulliau gweithio newydd.
"Mae bod yn rhan o'r gwaith paratoi ar gyfer lleoliad Cwpan y Byd yn rhywbeth rydw i'n hynod falch ohono, ac yn brofiad y byddaf yn ei gofio gydol fy ngyrfa."
Mae Rhys bellach wedi dychwelyd i Gaerdydd, lle mae wrthi gyda’r tîm yn paratoi cae Stadiwm Principality ar gyfer yr FA Community Shield, cyn newid yr arwyneb yn ôl ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd yr hydref hwn.
