A fydd buddugoliaeth gyntaf i Gymru yng ngêm olaf y Chwe Gwlad?
Fe fydd Cymru yn gobeithio dod â'u rhediad o 15 colled yn olynol yn y Chwe Gwlad i ben yng ngêm olaf y bencampwriaeth eleni yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn.
Er gwaethaf perfformiadau mwy calonogol yn y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Yr Alban ac Iwerddon, mae'n edrych yn debygol y bydd Cymru yn gorffen ar waelod y tabl ar ddiwedd y bencampwriaeth.
Nid yw Cymru wedi ennill gêm yn y Chwe Gwlad ers iddyn nhw guro'r Eidal ym mis Mawrth 2023, ac fe fydd y gêm yn erbyn yr Azzurri yn un heriol ddydd Sadwrn.
Fe gafodd Yr Eidal fuddugoliaeth hanesyddol y penwythnos diwethaf ar ôl curo Lloegr yn Rhufain.
Maen nhw hefyd wedi cael buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban yn y bencampwriaeth eleni, ac maen nhw'n gobeithio sicrhau tair buddugoliaeth yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf erioed.
Nid oes yna unrhyw newid i dîm Gymru a chwaraeodd yn erbyn Iwerddon yn Nulyn.
Yr unig newid ar y fainc yw Blair Murray, sydd yn cymryd lle’r canolwr Louie Hennessey.
Er i Gymru golli'n drwm yn erbyn Lloegr yn y gêm gyntaf, mae eu perfformiadau wedi bod yn gwella wrth i'r bencampwriaeth fynd yn ei blaen.
Fe ddaeth tîm Steve Tandy yn agos at guro'r Alban, gyda Chymru yn arwain tan y pum munud olaf, ac fe wnaethon nhw weithio'n galed yn erbyn Iwerddon yr wythnos diwethaf.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru Steve Tandy: "Mae cael tîm heb newidiadau yn adlewyrchu y cysondeb yn y grŵp a chysondeb y perfformiad yn Iwerddon."
'Adeiladu'
Yr unig ffordd i Gymru beidio â gorffen yn olaf ydy os ydyn nhw'n sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal a hynny o 50 o bwyntiau, gan obeithio fod Ffrainc yn cyflawni'r un peth yn erbyn Lloegr.
"Rydym ni wedi cael rhai perfformiadau da. Roedd yna rannau da yn erbyn Ffrainc, yna fe wnaethon ni adeiladu yn y gêm yn erbyn Yr Alban lle'r oeddem ni yn dda iawn yn fy marn i," meddai Tandy.
"Yn erbyn Iwerddon, fe wnaethom ni wella'n gorfforol. Bellach mae angen i ni roi y pethau yma i gyd at ei gilydd a chreu ein perfformiad gorau dros y penwythnos."
Gofynnwyd i Tandy hefyd os mai'r canlyniad neu'r perfformiad oedd y peth mwyaf pwysig yn erbyn yr Eidal.
"Y perfformiad dwi'n meddwl," meddai.
"Os ydyn ni'n sicrhau'r perfformiad, fe fydd y canlyniad yn dod yn sgil hynny. Dwi eisiau'r ddau beth os ydw i'n onesd."
