Ffliw ceffylau: Pryder am yr effaith ar sioeau amaethyddol
Ffliw ceffylau: Pryder am yr effaith ar sioeau amaethyddol
Mae yna bryder cynyddol am effaith ffliw ceffylau ar sioeau amaethyddol yr haf yn sgil cynnydd sylweddol mewn achosion.
Dros y penwythnos, fe gadarnhaodd Sioe Amaethyddol Pontargothi yn Sir Gaerfyrddin na fydd adran geffylau yn cael ei chynnal yn y sioe, ddiwedd mis Mai.
Mae dros 68 achos wedi cael eu cadarnhau o'r clefyd ar draws dros 33 sir yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ers 1 Ebrill 2026 yn ôl Tim Gwyliadwraeth Clefydau Heintus Ceffylau.
Mae ffliw ceffylau yn afiechyd heintus sydd yn lledu yn gyflym iawn ymhlith ceffylau. Mae yna bigiad yn erbyn y salwch, ond mae ceffylau sydd wedi cael eu brechu yn medru trosglwyddo'r afiechyd i'r rhai sydd heb gael pigiad.
Er nad yw fel arfer yn salwch angheuol, mae'n achosi twymyn, peswch a llesgedd i geffylau sydd yn dioddef.
'Ymledu'n glou'
Yn ôl Matthew Jones, Cadeirydd Sioe Amaethyddol Pontargothi, roedd yna leihad mawr yn nifer y ceisiadau eleni oherwydd pryder ymhlith perchnogion ceffylau.
"Mae lot o drafod wedi bod ers wythnosau bellach ond nos Wener diwethaf fe wnaethon ni benderfynu tynnu'r plwg ar yr adran geffylau eleni oherwydd doedd dim lot o bobl wedi entro oherwydd y ffliw a hefyd roedd e'n ymledu go glou yn yr ardal," meddai wrth Newyddion S4C.
"Y peth gorau i ni wneud oedd i stopio fe cyn iddo ymledu ymhellach. Roedden ni lawr tua 85% ar rifau y llynedd. Ni'n aml yn cael dros 300 o geffylau 'ma ar ddiwrnod Sioe a hyd yn hyn, dim ond cyrraedd 50 wnaethon ni."
Roedd milfeddygon sydd yn cynghori'r pwyllgor, wedi awgrymu na fyddai'n ddoeth i gynnal cystadlaethau i geffylau eleni.
"Ni'n lwcus iawn i gael milfeddygon yn rhan o'r sioe fan hyn. Roedd lot o achosion a hefyd lot o achosion yn mynd heb eu riportio.
"Eu barn nhw oedd cael bennu gyda adran y ceffylau eleni. Mae fe'n gallu bod yn yr awyr am filltir a hanner felly mae risg i geffylau sydd yn byw yn yr ardal a heb fynychu'r sioe.
"Mae llawer o bobl wedi cysylltu i ddiolch i ni am ganslo."
Fe fydd y sioe, serch hynny, yn mynd yn ei blaen "fel arfer" yn ôl Matthew gyda dosbarthiadau i wartheg, defaid, alpacas a geifr.
Mae gan y cyflwynydd a'r gantores, Shân Cothi, dri cheffyl, ac mae dau o'r ceffylau yn cael eu cadw ar iard yn Sir Gaerfyrddin.
"Mae'r iardiau i gyd nawr, lot ohonyn nhw yn yr ardal ac yn ne Cymru, wedi eu cau lawr," meddai.
"Does yna ddim digwyddiadau a dim symudiad ceffylau. Hwnna yw'r unig ffordd i leihau y risg o'r haint yma yn cydio.
"Chi ddim eisiau fe. Chi ddim eisiau eich ceffyl i gael y ffliw neu strangles ac mae un ffurf arall sydd yn fwy niwrolegol. Y peth yw mae'n mynd i effeithio ar y digwyddiadau a thymor y sioeau.
"S'dim bob ceffyl wedi cael y pigiad, yn enwedig y rhai mewn llaw, efallai. Mae'r ceffylau i gyd yn cario yr haint ond mae rhai sydd yn cael y pigiad ddim yn datblygu'r symptomau mor wael. Os wnewn ni rhywbeth nawr mae yna rywfaint o obaith y bydd tymor y sioeau ar ôl."
Sioe Fawr
Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Aled Jones, y bydd yr "adran geffylau yn cael ei chynnal yn ôl yr arfer."
"Ers 2019, mae hi'n angenrheidiol i bob ceffyl sydd yn dod i'r Sioe gael eu brechu yn erbyn ffliw ceffylau. Fe fyddwn ni yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn ofalus a chefnogi cystadleuwyr sydd yn arddangos ceffylau wrth baratoi ar gyfer y sioe ym mis Gorffennaf."
Y cyngor i atal lledaeniad ffliw ceffylau yw :
- sicrhau bod brechiadau'n gyfredol
- monitro ar gyfer arwyddion clinigol cynnar fel peswch, hylif o'r trwyn, twymyn a llesgedd
- gweithredu mesurau bioddiogelwch llym
- ynysu ceffylau sydd newydd gyrraedd a rhai sydd o amheuaeth o fod â'r ffliw, yn brydlon.
Yn ôl Dafydd Alun sy'n filfeddyg yn Aberystwyth, mae pryder mawr o fewn y diwydiant ceffylau: “Yn y deufis diwethaf, 'da ni’n gwybod bod 60 achos wedi cael ei gadarnhau ym Mhrydain ond mae yna dipyn fwy wedi cael eu hamau ac mae o ar draws Prydain, ymhob congl ac mae o’n bryder mawr,” meddai.
“Ar hyn o bryd, mae o wedi ei gadarnhau yn ne orllewin Cymru fwy na rhannau eraill. Mae’r patrwm yn Lloegr i weld ymhobman ar hyn o bryd. Beth mae o’n ei ddangos yw ei fod o wedi lledaenu ac mae hynny fel mae rhywun yn ei ddisgwyl gydag afiechyd fel ffliw. Mae’n heintus iawn a llosgi fel tân pan mae o’n mynd mewn i’r boblogaeth geffylau.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn achosion.
"Rydym yn ymwybodol o'r cynnydd mewn achosion o ffliw ceffylau. Rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus am arwyddion o glefyd a chysylltu â'u milfeddyg os oes ganddynt bryderon.
"Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac Awdurdodau Lleol yn gwneud penderfyniadau am iechyd a lles anifeiliaid yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael. Os ydynt yn credu bod digwyddiad yn peri risg rhy uchel, gallant ddewis peidio â rhoi trwydded.
"Brechu yw'r ffordd bwysicaf o leihau risg ac effaith ffliw ceffylau. Mae bioddiogelwch a hylendid da yn allweddol i atal ei gyflwyno a'i ledaenu."