Etholiadau canol tymor yr Unol Daleithiau: Pam maen nhw’n bwysig i ni yng Nghymru?

Donald Trump

Bydd pleidleiswyr yr Unol Daleithiau yn mynd i’r gorsafoedd pleidleisio ddydd Mawrth mewn etholiadau a allai gael effaith fawr ar weddill cyfnod Donald Trump fel arlywydd.

Ond beth yw’r etholiadau canol tymor, a pham ddylen ni gymryd sylw yma yng Nghymru?

Beth yw etholiadau canol tymor?

Maen nhw’n cael eu cynnal hanner ffordd drwy dymor pedair blynedd yr arlywydd.

Nid dewis arlywydd newydd yw’r diben. Yn hytrach, mae pleidleiswyr yn ethol aelodau’r Gyngres, sef y corff sy’n gwneud deddfau ffederal yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r canlyniadau’n penderfynu pa blaid fydd â mwyafrif ym mhob un o ddwy siambr y Gyngres – Tŷ’r Cynrychiolwyr a Senedd yr Unol Daleithiau – am y ddwy flynedd nesaf.

Beth mae’r arolygon barn yn ei awgrymu?

Mae’r arolygon cenedlaethol yn awgrymu bod y Democratiaid ar y blaen, a bod y Gweriniaethwyr yn wynebu brwydr i gadw rheolaeth ar y Gyngres.

Mewn arolwg gan NBC News rhwng 28 a 30 Hydref, roedd 52% o bleidleiswyr cofrestredig eisiau gweld y Democratiaid yn rheoli’r Gyngres, o gymharu â 45% oedd yn ffafrio’r Gweriniaethwyr.

Mae anfodlonrwydd â Trump yn rhan o’r stori. Mewn arolwg Reuters/Ipsos rhwng 22 a 26 Hydref, dim ond 32% o Americanwyr oedd yn cymeradwyo ei waith fel arlywydd.

Pam mae’r etholiadau’n bwysig i ni yng Nghymru?

O gost llenwi’r car â phetrol i ryfeloedd a masnach ryngwladol, mae penderfyniadau’r Unol Daleithiau yn cael effaith fawr ar ein bywydau ni yma yng Nghymru hefyd.

Er nad yw ei swydd yn y fantol, bydd yr etholiadau hyn yn helpu i benderfynu faint o rwydd hynt fydd gan Donald Trump i gyflawni ei gynlluniau dros ddwy flynedd olaf ei dymor.

Os bydd ei blaid, y Gweriniaethwyr, yn cadw rheolaeth ar y Gyngres, bydd yn haws iddo basio deddfau a sicrhau cyllid ar gyfer ei flaenoriaethau.

Os bydd y Democratiaid yn ennill rheolaeth ar un siambr, neu’r ddwy, fe allen nhw rwystro rhai o’i gynlluniau a rhoi mwy o bwysau ar ei weinyddiaeth.

Mae prisiau petrol yn un enghraifft o sut y gall digwyddiadau rhyngwladol effeithio arnom ni. Mae’r rhyfeloedd yn Iran ac Wcráin wedi gwthio prisiau tanwydd i fyny ledled y byd.

Mae gan y Gyngres lais dros gyllid ar gyfer gweithrediadau milwrol, er enghraifft, a gallai mwyafrif Democrataidd geisio cyfyngu ar yr arian y mae Trump ei eisiau ar gyfer y rhyfel yn Iran.

Image
Cyngres yr Unol Daleithiau
Cyngres yr Unol Daleithiau

Pwy sy’n cael eu hethol ddydd Mawrth?

Mae pob un o’r 435 sedd yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr ar y papur pleidleisio. Mae’r aelodau’n cynrychioli ardaloedd unigol ac yn gwasanaethu am ddwy flynedd.

Mae 100 o aelodau yn Senedd yr Unol Daleithiau, dau o bob talaith. Maen nhw’n gwasanaethu am chwe blynedd, felly dim ond tua thraean o’r seddi sy’n cael eu hethol bob dwy flynedd.

Eleni, mae 35 sedd yn y fantol, gan gynnwys dwy sedd mewn etholiadau arbennig.

Pa etholiadau sy’n werth cadw llygad arnyn nhw?

Gallai llond llaw o etholiadau mewn taleithiau allweddol benderfynu pwy fydd yn rheoli Senedd yr Unol Daleithiau. Mae angen i’r Democratiaid ennill pedair sedd yn ychwanegol i sicrhau mwyafrif.

Michigan: Yma, mae’r Democratiaid yn ceisio amddiffyn sedd. Mae eu hymgeisydd, Abdul El-Sayed, yn wynebu’r Gweriniaethwr Mike Rogers.

Pe bai’r Democratiaid yn colli’r sedd, byddai angen iddyn nhw ennill mwy o seddi mewn mannau eraill i sicrhau mwyafrif.

Mae’r etholiad wedi cymryd tro annisgwyl ar ôl i’r Democrat Haley Stevens, a gollodd y frwydr i Abdul El-Sayed i fod yn ymgeisydd ei phlaid, roi ei chefnogaeth i’r ymgeisydd Gweriniaethol.

Ohio: Mae’r Democrat Sherrod Brown yn ceisio dychwelyd i’r Senedd drwy drechu’r Gweriniaethwr Jon Husted.

Cafodd Husted ei benodi i gymryd lle JD Vance ar ôl iddo ddod yn is-arlywydd.

Byddai buddugoliaeth i Brown mewn talaith lle enillodd Trump yn gyfforddus yn 2024 yn ergyd sylweddol i’r Gweriniaethwyr.

Maine: Mae’r seneddwr Gweriniaethol Susan Collins yn ceisio cadw ei sedd yn erbyn y Democrat Troy Jackson.

Mae hon yn un o brif dargedau’r Democratiaid. Pe bai Collins yn colli, gallai hynny fod yn ergyd fawr i obeithion ei phlaid o gadw rheolaeth ar y Senedd.

Gogledd Carolina: Mae’r cyn-lywodraethwr Democrataidd Roy Cooper yn wynebu’r Gweriniaethwr Michael Whatley.

Gyda’r seneddwr presennol, Thom Tillis, yn gadael, mae’r Democratiaid yn gweld cyfle pwysig i gipio sedd oddi ar blaid Trump.

Beth bynnag fydd y darlun cenedlaethol, gallai canlyniadau’r etholiadau allweddol hyn benderfynu pwy fydd yn rheoli’r Senedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.