Etholiad Senedd Cymru: Y cyfri pleidleisiau i ddechrau fore Gwener

Logo Etholiad Senedd 2026 Newyddion S4C

Gyda'r gorsafoedd pleidleisio ar gau ers 22:00 nos Iau, fe fydd y cyfri pleidleisiau yn etholiad Senedd Cymru yn dechrau fore Gwener. 

Dyma’r tro cyntaf i’r etholiad ddefnyddio system bleidleisio gyfrannol newydd, gydag 16 etholaeth a phob un yn cael eu cynrychioli gan chwe aelod o’r Senedd. 

Mae hynny’n golygu y bydd 96 o aelodau’n cael eu hethol, o’i gymharu â 60 yn flaenorol.

Mae swyddogion canlyniadau wedi cael cyfarwyddyd na ddylai'r cyfrif ddechrau cyn 09:00 ond dim hwyrach na 11:00 fore Gwener.

Mae disgwyl i’r canlyniadau cyntaf gael eu cyhoeddi yn y prynhawn.

Ar gyfer y mwyafrif o etholiadau cyffredinol y DU, mae'r cyfri wedi bod yn digwydd dros nos gyda'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn oriau mân y bore. 

Ond y syniad y tu ôl i'r newid yn Etholiad y Senedd yw bod cyfri yn y dydd yn caniatáu i fwy o bobl gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau wrth i ganlyniadau gael eu cyhoeddi.

Roedd yna gyfri yn y dydd yn yr etholiad Senedd diwethaf yn 2021, ac fe ddigwyddodd yr un peth yn etholiadau'r cyngor yn 2022 ac etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu yn 2024.

Oherwydd ei fod yn system bleidleisio newydd mae mwy o ansicrwydd nag arfer ynglŷn â phryd fydd y canlyniadau llawn wedi eu cyhoeddi.

Mae asiantaeth newyddion PA wedi casglu amseroedd amcangyfrifedig ar gyfer cyhoeddi’r canlyniadau.

Brasamcanion yw’r amseroedd i gyd. Gallan nhw gael eu heffeithio gan oedi wrth wirio a chyfrif pleidleisiau, gan lefel y nifer a bleidleisiodd, neu gan yr angen i ail-gyfri pleidleisiau os yw’r canlyniadau’n agos.

Mae’r holl amseroedd yn cyfeirio at ddydd Gwener:

  • Casnewydd Islwyn - 14:00
  • Gŵyr Abertawe - 14:00
  • Sir Fynwy Torfaen - 14:00
  • Bangor Conwy Môn - 15:00
  • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni - 15:00
  • Brycheiniog Tawe Nedd - 15:00
  • Caerdydd Ffynnon Taf - 15:00
  • Caerdydd Penarth - 15:00
  • Ceredigion Penfro - 15:00
  • Clwyd - 15:00
  • Pen-y-Bont Bro Morgannwg 15:00
  • Afan Ogwr Rhondda - 15:30
  • Gwynedd Maldwyn - 15:30
  • Pontypridd Cynon Merthyr - 16:00
  • Sir Gaerfyrddin - 16:00
  • Fflint Wrecsam - 17:30
     

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.