Gwent: Arestio dau ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddau ddyn farw mewn gwrthdrawiad

Ffordd Aberthaw, Casnewydd

Mae dau berson wedi'u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddau ddyn farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd.

Cafodd Heddlu Gwent adroddiad fod car BMW a beic modur wedi bod mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Aberthaw yn oriau mân fore Iau.

Cafodd gyrrwr y beic modur a’r teithiwr oedd ar gefn y beic eu datgan yn farw yn y fan a’r lle gan barafeddygon.

Mae’r heddlu’n credu bod y BMW wedi gadael lleoliad y gwrthdrawiad cyn i swyddogion gyrraedd.

Mae dyn 18 oed a menyw 40 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae menyw 24 oed hefyd wedi’i harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r tri yn parhau yn y ddalfa.

Mae’r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn teithio ar hyd Ffordd Aberthaw rhwng hanner nos ac 01.40 fore Iau 7 Mai, neu sy’n byw yn yr ardal gyfagos.

Maen nhw hefyd yn gofyn i drigolion wirio lluniau CCTV, ac i unrhyw un sydd â lluniau dashcam neu wybodaeth arall gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r cyfeirnod 2600141467.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.