Cwest yn clywed fod dyn 82 oed o Fôn wedi cael ei ddarganfod ar dân yn ei ardd

Gwasanaethau Brys Porthaethwy

Mae cwest wedi clywed fod cymydog i ddyn 82 oed o Benymynydd ger Porthaethwy ym Môn wedi ei glywed yn galw am gymorth cyn cael ei ddarganfod ar dân ger llosgwr coed. 

Bu farw Julian Langley, clerc cyfrifon oedd wedi ymddeol, ar 19 Ebrill ar ôl cael ei ddarganfod ar dân yn ei ardd.

Dywedodd uwch grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, mewn gwrandawiad byr yng Nghaernarfon eu bod yn aros am achos y farwolaeth. 

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn caniatáu i'r heddlu ymchwilio ymhellach.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Penmynydd ger Porthaethwy toc wedi 17.00 ar 19 Ebrill i gynorthwyo'r gwasanaethau brys.

Er gwaethaf eu hymdrechion, cyhoeddwyd bod dyn 82 oed wedi marw yn ddiweddarach.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y pryd fod un criw o Fangor ac un criw o Fenllech wedi eu hanfon yno, ac fe gafodd corff dyn ei ddarganfod y tu allan i'r adeilad. 

Dywedodd Mike Owen ar ran y gwasanaeth: "Ry'n ni'n estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn.

"Mae achos y tân yn destun ymchwiliad ar y cyd."

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.