Cwest yn clywed fod dyn wedi marw o nifer o anafiadau wedi gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

Roger Hawcroft

Mae cwest wedi clywed fod dyn 67 oed a oedd yn gyrru beic modur wedi marw o nifer o anafiadau yn dilyn gwrthdrawiad ym Mynytho ym Mhen Llŷn ym mis Ebrill. 

Bu farw Roger Hawcroft o Fotwnnog ar 25 Ebrill ar ffordd y B4413 ym Mynytho.

Wrth agor cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Iau, dywedodd uwch grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, fod yr heddlu wedi derbyn galwad 999 gan aelod o'r cyhoedd ychydig ar ôl 15.00 yn adrodd am wrthdrawiad rhwng beic modur a cherbyd arall.

Fe wnaeth patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers, gynnal archwiliad post-mortem.

Dywedodd y crwner: "Mae ymchwiliadau Heddlu Gogledd Cymru yn parhau. 

"Felly, rwy'n agor y cwest ond yn ei ohirio tra bod yr ymchwiliadau pellach hynny'n cael eu cynnal."

Dywedodd yr heddlu fod y gwrthdrawiad yn ymwneud â char VW Polo coch a beic modur Yamaha du ar y B4413.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Hawcroft: "Bu farw dad yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu, yn y lle yr oedd yn ei garu, gyda'r haul ar ei wyneb a'r môr wrth ei ochr. 

"Er mor drist yr ydym ni, ni fyddai wedi dymuno iddo fod yn wahanol ac ni fyddem ni chwaith.

"Rydyn ni'n gwybod faint o bobl oedd yno i'w helpu ar y diwrnod, yr arbenigwyr a'r bobl gyffredin, ac rydyn ni eisiau i chi nid yn unig wybod pa mor ddiolchgar ydyn ni, ond ein bod ni'n dawel ein meddyliau, ac yn dymuno'r un peth i bob person arall a wnaeth gymryd rhan.

"Mae ein mam annwyl yn gweddïo drosoch am byth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.