Eryri: Academydd blaenllaw o Fryste wedi marw 'o anaf trawmatig ar ôl disgyn'
Mae cwest wedi clywed fod academydd blaenllaw o Brifysgol Bryste wedi marw yn Eryri o ganlyniad i anaf trawmatig i'w frest ar ôl disgyn.
Cafodd corff yr Athro Gregor McLennan o Ysgol Seicoleg, Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol y brifysgol ei ddarganfod yng Nghwm Graianog ar Garnedd y Filiast ym mis Mehefin.
Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru, fod Mr McLennan wedi ei eni ar 21 Hydref 1952, a'i fod yn byw yn ardal Kingsdown o Fryste.
Roedd yn Athro Emeritws wrth ei waith.
Taith gerdded
Dywedodd y crwner fod Mr McLennan wedi teithio i ogledd Cymru ar 25 Mehefin eleni gyda'r bwriad o gerdded yn Eryri.
"Cafodd ei weld ym maes parcio gwesty'r Snowdonia Mountain Lodge gan William Williams y bore hwnnw rhwng 09:00 a 10:00.
"Roedd i fod i nodi ei bresenoldeb ond dywedodd staff y gwesty nad oedd wedi gwneud hyn.
"Ni fu unrhyw gyswllt arall ganddo."
'Cerddwr profiadol'
Ychwanegodd y crwner nad oedd unrhyw bryderon am ei iechyd meddwl cyn iddo ddiflannu. Roedd wedi derbyn monitor calon yn y gorffennol.
"Cafodd ei ddisgrifio gan ei wraig i'r tîm achub mynydd fel cerddwr profiadol," meddai Sarah Riley.
"Roedd pryder ar y diwrnod dan sylw am y gwres ar y diwrnod blaenorol, ac fe allai fod wedi blino'n gynt o ganlyniad."
Fe ddechreuodd yr heddlu, y tîm achub mynydd ac aelodau o'i deulu chwilio amdano.
Am 15:30 ar ddydd Llun 29 Mehefin, fe wnaeth aelod o'r tîm achub mynydd ddarganfod gwrthrych yn y pellter wrth edrych drwy ei sbienddrych.
Lluniau drôn
Fe gafodd drôn ei gyfeirio i'r lleoliad dan sylw, ac fe ddangosodd lluniau o'r drôn Mr McLennan yn gorwedd yn llonydd ar ei gefn ar lwybr creigiog.
Cafwyd hyd iddo am 15:51 y diwrnod hwnnw, a'i adnabod yn ffurfiol gan ei fab Finn Battleday.
Cafodd ei farwolaeth ei chofnodi ar 17:35 ar 29 Mehefin.
Roedd yn gorwedd ar ei gefn gyda'i sach deithio ar ei gefn ac roedd helmed feicio ar ei ben-glin oedd wedi ei difrodi.
Roedd y difrod i'r helmed yn cydfynd gydag arwyddion o drawma marwol oedd yn ymddangos ar gefn ei ben.
"Cafodd archwiliad post mortem ei drefnu a'i gwblhau gan Dr Atkinson ar 6 Gorffennaf.
"Y canfyddiad cychwynnol dros achos ei farwolaeth oedd trawma i'r frest o ganlyniad i ddisgyn", meddai'r crwner.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.
Yn dilyn ei farwolaeth fe gyhoeddodd ei deulu deyrnged i Mr McLennan.
Mewn datganiad wedi i'w gorff gael ei ddarganfod, dywedodd ei deulu: "Bu Greg farw yn y lle roedd yn teimlo mwyaf bywiog ac roedd y golygfeydd olaf iddo eu gweld yr un mor rhyfeddol ag ef."
"Roedd Dad yn ddyn angerddol ac ysbrydoledig ac fe wnaeth ei gynhesrwydd gyffwrdd â nifer o bobl.
“Fe wnaeth ein ffrindiau a’n hanwyliaid roi popeth o’r neilltu i gynnig help ar adeg ofnadwy, rhywbeth y byddwn wastad yn ddiolchgar amdano.”
Ar ôl graddio, dychwelodd Yr Athro Gregor McLennan i Brifysgol Bryste i ddarlithio yn 1997.
'Ysgolhaig nodedig'
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor a Phrofost Prifysgol Bryste, Judith Squires, fod caredigrwydd deallusol Mr McLennan, "ei drylwyredd a’i ymrwymiad i ddadl gyhoeddus wedi cael effaith barhaol ar fyfyrwyr, cydweithwyr ac ar y sefydliad yn ehangach”.
“Yn ysgolhaig nodedig ac yn gydweithiwr gwerthfawr, gwnaeth gyfraniad rhagorol i gymdeithaseg ac i’r gymuned academaidd yma ym Mhrifysgol Bryste ac ar draws y byd,” meddai.