Elfyn Evans yn gorffen yn bumed yn Rali Chile ond yn dal ar frig y bencampwriaeth

Elfyn Evans - Rali Chile

Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen yn bumed ar ddiwedd y cystadlu yn Rali Chile.

Roedd Evans 19.1 eiliad tu ôl i Oliver Solberg o Sweden, wnaeth ennill y rali, ar ôl y 12 cymal cyntaf.

Roedd Sébastien Ogier o Ffrainc yn dynn wrth sodlau Evans, gyda 1.3 eiliad yn unig rhwng y ddau ar ddiwedd cymalau ddydd Sadwrn

Roedd Evans yn gyflym ar ddau gymal cyntaf ddydd Sul ond yna fe gafodd twll yn ei deiar ar y cymal olaf ond un gan golli tri safle.

Fodd bynnag, er i Sami Pajari o'r Ffindir ddod yn bedwerydd, mae Evans yn cadw ei le ar frig y tabl o 17 pwynt dros Pajari

Fe fydd y cystadleuwyr yn symud ymlaen i'r Eidal ymhen tair wythnos gyda'r tymor yn dod i ben yn Saudi Arabia yng nghanol mis Tachwedd.

Llun: X/Elfyn Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.