Elfyn Evans yn bencampwr Rali'r Byd wedi diweddglo dramatig yn Sardinia
Mae Elfyn Evans wedi ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd 2026 yn Sardinia.
Wedi diwrnod o gyffro a'r bwlch rhwng Evans ac Oliver Solberg yn lleihau, fe aeth car y gyrrwr o Sweden oddi ar y cwrs ar gymal olaf un y tymor.
Evans o Ddinas Mawddwy yw'r Cymro cyntaf i gipio'r teitl.
Roedd y frwydr am y bencampwriaeth wedi mynd yr holl ffordd i'r Cymal Cyffro, gyda dim ond un pwynt yn gwahanu Evans a Solberg cyn y cymal hwnnw.
Roedd hynny'n golygu y byddai pwy bynnag fyddai'n gorffen o flaen y llall ar y cymal olaf yn bencampwr y byd.
Daeth hynny wedi ergyd fawr i Evans ar y cymal blaenorol, pan gafodd dwll yn ei deiar a bu'n rhaid iddo stopio i'w newid.
Roedd Solberg wedi arwain Rali Sardinia ac wedi lleihau mantais Evans yn sylweddol dros ddiwrnod olaf y tymor, ond daeth ei obaith o gipio'r bencampwriaeth i ben wedi iddo fynd oddi ar y ffordd ar y cymal olaf.
Mae'r fuddugoliaeth yn dod wedi blynyddoedd o ddod yn agos at y teitl i Evans, sydd wedi gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd bum gwaith yn ystod y chwe thymor blaenorol.
Mewn fideo ar ei gyfryngau cymdeithasol, fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, “Am brynhawn o gyffro. Llongyfarchiadau mawr, mawr i ti, Elfyn.
"Dwi mor, mor falch ohonat ti. Wedi dod mor agos gymaint o weithiau.
Llongyfarchiadau mawr iawn i ti. Amazing!”
Inline Tweet: https://twitter.com/RhunapIorwerth/status/2106740700788265237?s=20
Mae hefyd yn dod yn yrrwr Prydeinig cyntaf i ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd ers Richard Burns yn 2001.
Roedd Evans wedi mynd i mewn i rali olaf y tymor 17 pwynt ar y blaen i Sami Pajari a 21 pwynt ar y blaen i Solberg.
Ond wedi pedwar diwrnod dramatig yn Sardinia, ac wedi i'r frwydr fynd yr holl ffordd i gymal olaf y flwyddyn, Evans sydd wedi cipio pencampwriaeth y byd am y tro cyntaf yn ei yrfa.