Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026: Sut mae cyrraedd y Maes?
Gydag ychydig o ddyddiau yn unig i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026, sut mae cyrraedd y Maes eleni?
Mae'r Maes eleni yn Llantwd, ac mae'r Eisteddfod wedi cyhoeddi nifer o opsiynau gwahanol er mwyn cyrraedd y Brifwyl.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae Trafnidiaeth Cymru’n rhedeg bysiau gwennol rhad ac ddim a rheolaidd i’r Maes o orsaf Caerfyrddin, gyda’r bws olaf yn gadael y Maes i ddychwelyd i orsaf Caerfyrddin ar gyfer trên:
- 22:41 i Gaerdydd (dydd Llun i Gwener)
- 21:34 dydd Sadwrn
- 21:15 dydd Sul.
Mae modd cael mwy o fanylion am amserlen y bws gwennol yma.
Bysiau
Mae modd defnyddio gwasanaeth bws TrawsCymru T5 yn uniongyrchol i'r Eisteddfod yn Llantwd, ac mae TrawsCymru yn cynyddu amlder y gwasanaeth T5 rhwng Aberteifi ac Abergwaun rhwng 1 ac 8 Awst.
Mae gwasanaeth bws 430 yn darparu cysylltiad rhwng Arberth ac Aberteifi drwy Grymych.
Mae gwasanaeth bws 460 yn darparu cysylltiad rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi drwy Gastell Newydd Emlyn, ac yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Mae angen newid yn Aberteifi ar gyfer cysylltiad ymlaen i'r Maes ar wasanaeth T5 neu'r Bws Gwennol.
Bysiau gwennol rhwng y Maes ac Aberteifi
Bydd gwasanaeth bws gwennol (Bws yr Arglwydd Rhys) yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Sgwâr Finch a’r Maes o 07:00 tan 00:00. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, ac nid oes angen archebu lle.
Bydd y bysiau'n gadael y sgwâr ar yr awr i deithio i'r Maes ac yn gadael y Maes i ddychwelyd i Aberteifi bob hanner awr wedi.
Mae lifft ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Teithio mewn car
Mae angen dilyn yr arwyddion ‘Eisteddfod’ melyn i gyrraedd y Maes.
Mae Maes B, y maes carafanau a gwersylla teuluol, Hwyrnos a maes pebyll Maes B, a'r meysydd parcio i gyd yn agos at Faes yr Eisteddfod yn Llantwd.
Bydd traffig o ogledd a rhannau o ganolbarth Cymru’n teithio i’r Maes ar yr A487, gan deithio i’r de o Aberystwyth, ymlaen i Synod Inn, heibio Aberteifi, cyn cyrraedd y safle, i’r gogledd o Lantwd ar yr A487.
Os yn teithio o gyfeiriad de Cymru, fe fydd arwyddion clir yn cael eu gosod o gyffiniau Caerfyrddin ymlaen.
O'r ardal yma, mae angen yr A40 i gyfeiriad cylchfan Pemblewyn, yna cymryd yr A478 tua’r gogledd, parhau ar yr A478 hyd at y groesffordd gyda’r B4332.
Yna wrth y groesffordd, mae angen troi i'r chwith a theithio tua'r gorllewin, cyn dilyn yr B4332 am tua 2 filltir cyn troi i’r dde a dilyn y ffordd tuag at yr A487, nes cyrraedd y gyffordd gyda’r A487.
Ar ôl cyrraedd yr A487, ewch tua’r gogledd i gyfeiriad Aberteifi, a pharhau am filltir nes cyrraedd y Maes.
Beicio i'r Maes
Mae hyd at 400 safle beic gyda chlo wedi'u lleoli wrth ymyl y Ganolfan Groeso.
Mae angen cymryd gofal os yn beicio i'r Maes gan fod yr A487 yn gallu bod yn brysur.
Cerdded i'r Maes
Nid yw'r Eisteddfod Genedlaethol yn argymell cerdded i'r Maes oherwydd fod yr A487 yn gallu bod yn brysur iawn.
