Dyn yn pledio'n euog i esgeuluso dros 100 o anifeiliaid yn ei gartref

Llys Ynadon Wrecsam
Mae dyn 39 oed o Wrecsam wedi cyfaddef iddo esgeuluso anifeiliaid ar ôl i greaduriaid fel llygod mawr, nadroedd, draenogod a llygod gael eu symud o'i gartref. 
 
Clywodd ynadon yn Wrecsam fod Christopher David Jones o ardal Cefn-y-Bedd wedi esgeuluso'r anifeiliaid am gyfnod hir yn ei gartref ar y pryd.  
 
Cafodd 132 o greaduiriad eu darganfod yno. 
 
Yn ôl elusen yr RSPCA, roedd amrywiaeth eang o anifeiliad yn y cartref ac roedd rhai wedi marw.  
 
Plediodd Jones yn euog i chwe chyhuddiad yn ymwneud â lles anifeiliaid rhwng Ebrill ac Awst y llynedd. 
 
Roedd y cyhuddiadau yn ymwneud â 71 llygoden fawr, 22 neidr, un ffured, dau ddraenog, 18 llygoden, pedwar bochdew, saith cwningen a thri chrwban. 
 
Roedd y troseddau eraill yn ymwneud â pheidio â chael triniaeth gan filfeddyg ar gyfer dau beithon. 
 
Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Stephen Edwards bod hwn yn achos "anghyffredin" a bod Jones ar adeg dyngedfennol wedi dioddef pennod seicotig, ac wedi bod yn yr ysbyty am 10 niwrnod.  
 
 Ychwanegodd Mr Edwards: "Roedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Doedd e ddim yn gweithio, ac yn dioddef o sawl cyflwr.   
 
"Mae e wastad wedi caru anifeiliaid, a diddordeb mawr mewn ymlusgiaid," meddai. 
 
Daeth amgrym yn y gwrandawiad i gynnal asesiad iechyd meddwl.
 
Cafodd yr achos ei ohirio tan y gwrandawiad dedfrydu ar 16 Mawrth.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.