Dyn yn euog o lofruddio ei lysfab pum mis oed
Ymosododd Thomas Morgan ar ei lysfab Jensen-Lee Dougal yng nghartref y teulu yn Abertawe.
Clywodd Llys y Goron Abertawe i'r bachgen farw mewn ysbyty ar ôl dioddef niwed difrifol i'w ymennydd, ei lygaid a thorri sawl asgwrn.
Roedd Morgan o ardal Gorseinon, wedi honni iddo geisio achub bywyd Jensen-Lee ar ôl iddo ddechrau tagu.
Ond dyfarnodd y rheithgor ddydd Mawrth ei fod yn euog o'i lofruddio.
Clywodd y llys fod Morgan mewn perthynas â mam Jensen-Lee, Jordan Dougal, ac yn cael ei ystyried yn llysfab iddo.
Dywedodd Caroline Rees KC, ar ran yr erlyniad fod Morgan wedi torri pob ymddiriedaeth ynddo drwy ymosod ar Jensen-Lee ar 30 Mawrth 2024, ddiwrnod cyn iddo farw.
Roedd Morgan wedi cael ffrae gyda'i gyn bartner Georgia Griffiths yn gynharach y diwrnod hwnnw, ac wedi cael ei adael ar ei ben ei hun yn y cartref gyda Jensen-Lee tra roedd mam y plentyn wedi mynd i'w gwaith.
Tra yn y gwaith derbyniodd Ms Dougal alwad gan Morgan yn dweud bod ei phlentyn yn tagu ac nad oedd yn anadlu.
Cafodd ei gludo i ysbyty, ond bu'n rhaid ei dynnu oddi ar beiriant cymorth bywyd y diwrnod canlynol.
Bydd Thomas Morgan yn cael ei ddedfrydu maes o law.