Dyn o Wynedd wedi'i ddal gan Fyddin Israel tra'n cludo cymorth i Gaza
Dyn o Wynedd wedi'i ddal gan Fyddin Israel tra'n cludo cymorth i Gaza
Mae dyn o Wynedd yn dweud ei fod wedi cael ei gam-drin a’i arteithio gan Luoedd Amddiffyn Israel tra’n ceisio cludo cymorth dyngarol i Gaza.
Cafodd Chris Hill, o Glwt-y-bont, ger Deiniolen, ei atal a’i ddal ddwywaith mewn dyfroedd rhyngwladol, tra’n hwylio ar gwch oedd yn rhan o ymgyrch dyngarol Global Sumud Flotilla.
Roedd Chris yn un o ryw 180 o wirfoddolwyr a adawodd ynys Sisili ddiwedd Ebrill fel rhan o fflotila cymorth. Wedi deuddydd ar y môr, â Chris a’i griw yn hwylio rhyw 600 milltir i'r gorllewin o Gaza, daeth dau gwch cyflym tuag atyn nhw.
Yn siarad ar raglen Y Byd ar Bedwar: Cosb Cymorth i Gaza, fe ddywedodd Chris: "Fe daflon ni olau arnyn nhw, ac yna fe ddechreuon nhw daflu goleuadau strôb llachar yn ôl aton ni a phwyntio’u harfau. Ar y pwynt yna, fe sylweddolais i mai Lluoedd Amddiffyn Israel oedden nhw.”
“Pan mae gynnau yn cael eu pwyntio atoch chi, chi'n mynd i gydymffurfio.”
Cafodd Chris a’i griw eu gorchymyn i symud o’u cwch. Tra’n cael ei hebrwng, mae Chris yn honni i un o swyddogion lluoedd Israel afael ynddo’n amhriodol.
“Ces i fy ymosod yn rhywiol pan ges i fy chwilio. Ces i fy nghuro hefyd. Cafodd pobl eraill eu curo'n fwy difrifol - roedd gan rai lygaid duon, rhai gyda chleisiau gwael, cafodd rhai eu saethu â bwledi rwber hefyd.”
Cafodd Chris a gweddill criwiau’r fflotila eu cludo i un o longau carchar Llynges Israel ym Môr y Canoldir, lle mae e’n honni iddo ef ac eraill brofi artaith.
“Byddech chi'n cael eich rhoi mewn stress position neu’n cael eich gorchymyn i mewn i stress position - ar eich gliniau gyda'ch pen ar y llawr.”
Mae Chris yn dweud iddo gael ei ddal dan yr amodau hyn am ddeuddydd, cyn cael ei ryddhau a’i gludo i ynys Creta, Gwlad Groeg.
'Maen nhw'n brutal'
Cafodd y fflotila ei hatal mewn dyfroedd rhyngwladol, sy’n cael eu llywodraethu gan gyfraith ryngwladol, a lle nad oes gan unrhyw wladwriaeth awdurdodaeth sofran.
Mae Cat Jones, bargyfreithwraig sy’n gweithio ym meysydd amddiffyn dyngarol a hawliau dynol, yn dweud bod Gwladwriaeth Israel yn dod yn agos iawn at dorri cyfraith ryngwladol drwy ymddwyn fel hyn.
"Mae’n rhaid cofio bod dyfroedd rhyngwladol yn ddŵr lle mae pawb yn cael croesi," meddai.
"Mae ffin sylweddol yn cael ei chroesi pan maen nhw [Lluoedd Amddiffyn Israel] yn mynd i mewn i ddyfroedd rhyngwladol er mwyn amharu â chychod.
"Mae’n anodd gweld o ble mae’r bygythiad yn dod gyda’r cychod bach ‘ma."
Mae Cat hefyd yn dweud bod yna dystiolaeth glir nad yw Israel yn dilyn cyfraith ryngwladol bob tro.
"Fi’n credu mae nhw [Lluoedd Amddiffyn Israel] yn un o’r byddinoedd mwya’ peryglus yn y byd o ran peidio dilyn y gyfraith ryngwladol. Maen nhw’n brutal," meddai.
"Mae ‘na safon, ac mae’r hyn ry’n ni’n clywed wrth bobl y fflotilas yn cwympo’n bell o dan y safon o ran sut ddylai pobl gael eu trin.
"Petai unrhyw wlad arall yn gwneud yr hyn mae Israel yn ei wneud, byddai banllef o brotest. Mae Israel yn dod bant â’i, sydd ddim yn deg ac sy’n creu double standard o ran y gyfraith ryngwladol."
Mae Israel wedi dweud yn gyson mai pwrpas ei hymgyrch filwrol yw brwydro terfysgaeth a chael gwared â Hamas, a bod ei gweithredoedd yn rhesymol ac yn angenrheidiol.
Pobol ddim yn cael y cymorth sydd angen
Cafodd cadoediad rhwng Israel a Hamas ei gyhoeddi fis Hydref llynedd. Ers hynny, mae rhai rhwystrau i fynediad dyngarol wedi cael eu codi.
Ond yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae’r sefyllfa’n parhau i fod yn anghynaliadwy. Mae Gaza’n cael ei disgrifio fel y lle mwyaf peryglus ar y ddaear i ddarparu cymorth.
Dywedodd Gwern Gwynfil o Oxfam Cymru: "Ers y cadoediad, mae rhyw fil wedi cael eu lladd gan weithgaredd gwrthdaro, a rhyw dair mil hefyd wedi cael anafiadau, ac mae’r niferoedd yna yn cynyddu bob mis. Mae hynna yn mynd i barhau tan bod modd i ddarparu y lefel o gymorth sydd yn cyfateb i’r angen.
"Mae hi dal yn argyfwng dyngarol i bobl Gaza. Mae hi bron yn anorfod bod ‘na bobl mewn angen mawr sydd ddim yn cael y cymorth sydd angen arnyn nhw."
Atal am yr eildro
Ar ôl cael ei atal y tro cyntaf, fe benderfynodd Chris geisio hwylio eto i Gaza.
Ond cafodd ei atal unwaith yn rhagor gan Luoedd Amddiffyn Israel a’i gludo i long garchar Llynges Israel. Yno, mae Chris yn dweud iddo gael ei drin yn waeth na’r tro cyntaf.
"Ces i fy nyrnu yn y sternwm a'm gorchymyn i dynnu bandana roeddwn i'n gwisgo," meddai.
"Pan es i i'w dynnu, ces i fy nyrnu am yr ail dro. Yna, ces i fy llusgo, fy nhaflu i'r llawr, a dechreuodd tri neu bedwar ohonyn nhw [swyddogion Lluoedd Amddiffyn Israel] fy nghicio a fy nyrnu i."
Ar ôl deuddydd ar y llong garchar, cafodd Chris ei gludo i borthladd dinas Ashdod yn Israel.
"Ces i fy ngalw gan un o'r gwarchodwyr. Fe wnaethon nhw fy nhaflu i'r llawr, fy nharo yn fy wyneb, cicio fy nghefn, cicio fy nghoesau. Gwaeddais mewn poen," meddai.
"Roedd y gefynnau (handcuffs) mor dynn â phosib. Bydden nhw'n defnyddio rhain fel math o artaith, a bydden nhw'n tynnu'r gefynnau ar eich arddyrnau nes i chi weiddi mewn poen."
Fe dreuliodd Chris noson yng ngharchar mwyaf Israel, Ktzi’ot, cyn cael ei ryddhau a’i anfon i Istanbul yn Nhwrci.
"Mae'r hyn aethon ni drwyddo, er mor erchyll, yn rhywbeth mae Palesteiniaid wedi bod yn byw gyda ers degawdau ac yn mynd drwyddo bob dydd," meddai.
Mewn ymateb i honiadau Chris, fe ddywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel: "Mae Lluoedd Amddiffyn Israel yn gwrthod honiadau o gam-drin gan ein milwyr.
"Mae gorchmynion ein lluoedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i aelodau unrhyw fflotila sy’n cael ei hatal gael eu trin yn barchus ac yn briodol, ac mae yna weithdrefnau clir a sefydledig yn hynny o beth.
"Nid oes unrhyw ddigwyddiadau penodol o wyro oddi wrth y gweithdrefnau hyn yn hysbys o fewn Lluoedd Amddiffyn Israel, a bydd unrhyw gwynion pendant sy’n cael eu cyflwyno yn cael eu harchwilio'n drylwyr."
Fe ychwanegon nhw: "Mae’r blocâd llyngesol yn yr ardal forwrol ger Gaza yno am resymau diogelwch yn unol â chyfraith ryngwladol, gyda'r nod o atal smyglo a gweithgaredd terfysgol sy'n peryglu diogelwch Gwladwriaeth Israel a'i sifiliaid.
"Fe wnaeth Lluoedd Amddiffyn Israel ryng-gipio llongau oedd yn ceisio torri'r blocâd gan ddefnyddio dulliau cydnabyddedig a chyfreithlon yn unol â chyfraith ryngwladol."
Mae Y Byd ar Bedwar wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Israel.
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Cosb Cymorth i Gaza ar S4C, nos Lun, 29 Mehefin, 20:00. Bydd y rhaglen hefyd ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer, a sianel YouTube S4C.