Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Môn

Burwen ym Mon

Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ym mhentref Burwen ger Amlwch, Ynys Môn brynhawn Sadwrn. 

Roedd y dyn sydd wedi marw yn gyrru'r beic modur. 

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc ar ôl 12.00 ddydd Sadwrn i ffordd yr A5025. 

Mae'r awdurdodau wedi cysylltu â'r crwner a theulu'r dyn. 

Dywedodd yr Arolygydd Matt Halstead: "Rwy'n anfon fy nhgydymdeimlad dwysaf at deulu'r dyn ar yr amser hynod o anodd hwn 

"Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd ffordd yr A50235 ym mhentref Burwen toc cyn hanner dydd heddiw ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd â deunydd dash-cam i gysylltu â ni cyn gynted â bo modd.

"Gallai unrhyw wybodaeth fod yn hanfodol i'n hymchwiliad."          

Mae modd i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r Gogledd drwy wefan y llu, neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r rhif 0101130.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.