Dyn wedi marw a degau wedi eu hanafu mewn damwain bws ar yr Ynysoedd Dedwydd
Mae dyn wedi marw a degau o bobl wedi’u hanafu ar ôl i fws oedd yn cludo twristiaid o Brydain ddod oddi ar ffordd droellog ar yr Ynysoedd Dedwydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i leoliad y ddamwain oddi ar ffordd y GM-2 yn San Sebastian de La Gomera, ar ynys La Gomera, ar arfordir dwyreiniol yr ynys ddydd Gwener, yn ôl cyfrif swyddogol gwasanaeth brys 112 Canarias.
Mae lluniau gan Lywodraeth yr Ynysoedd Dedwydd ('Canary Islands' yn Saesneg) yn dangos bod y bws wedi dod oddi ar y ffordd ar droad, gan ddod i stop mewn ceunant.
Aeth sawl ambiwlans, gan gynnwys ambiwlans awyr, i gynnig cymorth yn ystod y digwyddiad.
Mae dau berson gafodd eu hanafu'n ddifrifol wedi cael eu trosglwyddo i ysbytai yn Tenerife mewn hofrennydd.
Bydd un yn cael ei gludo i Ysbyty Prifysgol Nuestra Senora de Candelaria tra bydd un arall yn mynd i Ysbyty Prifysgol Canarias meddai'r awdurdodau.
Llun: Llywodraeth yr Ynysoedd Dedwydd