Dyn o Geredigion yn pledio'n euog i droseddau cynhyrchu cig 'smokies'

Smokies

Mae dyn o Geredigion wedi pledio’n euog i droseddau’n ymwneud â diogelwch bwyd a chynhyrchu cig ‘smokies’.

Yn Llys y Goron yn Isleworth yn Llundain, plediodd Carmello Gale, 71 oed, o Landysul, yn euog o gynllwynio i roi bwyd anniogel, sef cig ‘smokies’, ar y farchnad. 

Daeth y troseddu i'r golwg yn dilyn ymchwiliad gan Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae cynhyrchu 'smokies' yn golygu lladd anifeiliaid, sef defaid yn bennaf, yn anghyfreithlon, gyda'r cnu yn aros ar y carcas cyn cael ei losgi gyda lamp losgi i fygu'r cig.

Mae cynhyrchu 'smokies' yn drosedd o dan Reoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd (Lloegr) 2013 a Deddf Cyfraith Trosedd 1977.

Cafodd Gale ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu maes o law.

Safonau hylendid

Mae'r broses o gynhyrchu 'smokies' yn cael ei gynnal mewn safleoedd heb eu cymeradwyo sy’n annhebygol o gydymffurfio â’r gofynion a’r safonau hylendid llym ar gyfer paratoi cig neu fwyd.

Dywedodd Neil Castle, Dirprwy Bennaeth yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd: “Mae Carmello Gale yn cael ei ystyried yn ffigwr pwysig yn y fasnach ‘smokies’ anghyfreithlon, ac fe wnaeth yr ymchwiliad ddatgelu ei ran yn y dosbarthiad eang o ‘smokies’ ledled y DU.

"Mae’r ple euog hwn yn adlewyrchu gwaith pawb oedd yn rhan o’r ymchwiliad hwn. 

"Hoffwn i ddiolch i Gyngor Sir Ceredigion, Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Southwark, Cyngor Abertawe, ac Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn Ne Cymru, am eu cefnogaeth."

Ychwanegodd Mr Castle: "Ni fydd yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn stopio ymdrechu i adnabod y rhai sy’n ceisio camfanteisio ar ein system fwyd, ymchwilio iddyn nhw, a’u dwyn gerbron y llys. 

"Os oes gan unrhyw un amheuon neu bryderon ynghylch ‘smokies’ neu dwyll bwyd, gallwch chi gysylltu â’ch Safonau Masnach lleol neu siarad â ni yn gyfrinachol ar 0800 028 1180.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.