Dyn o Abertawe yn euog o lofruddio ei frawd ei hun

Martin Steel

Mae dyn o Abertawe wedi ei gael yn euog o lofruddio ei frawd ei hun.

Daeth swyddogion o hyd i gorff Martin Steel, 48 oed, mewn cyfeiriad ar Gilgant Hill View, Mynydd-bach, ychydig ar ôl 10:30 ddydd Sadwrn 20 Mai 2023.

Plediodd Darren Steel, 41 oed, o Dreforys, yn ddieuog i lofruddiaeth a dynladdiad Martin ym mis Chwefror 2024, ond ddydd Iau fe wnaeth rheithgor ei gael yn euog o lofruddiaeth.

Bydd Steel yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener, 13 Chwefror.

Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Stuart Prendiville: “Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir a chymhleth i ddigwyddiad sydd wedi syfrdanu cymunedau Clase, Treforys a chymuned ehangach Abertawe.

“Mae’r effaith ar y teulu wedi bod yn sylweddol.

“Fe wnaeth Darren Steel fradychu ei frawd hŷn yn y modd mwyaf eithafol, ac fe achosodd fwy o ofid drwy bledio’n ddieuog a rhoi’r teulu drwy brofiad nid un, ond dau achos llys.

“Rydym yn falch o’r canlyniad ac yn falch bod yr achos llys bellach wedi dod i ben. Mae ein meddyliau gyda’r teulu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.