Dyn 28 oed yn cyfaddef achosi marwolaeth tad i ddau yn Llanpumsaint drwy yrru'n beryglus
Mae dyn 28 oed wedi cyfaddef iddo achosi marwolaeth tad i ddau a gafodd ei daro gan gar yn Llanpumsaint, Sir Gâr.
Bu farw Aaron Jones ar 23 Rhagfyr 2024 ar ôl cael ei daro gan gar tra'r oedd yn cerdded ar ffordd wledig gyda'i gi ddeuddydd cyn y Nadolig.
Fe gafodd Daniel Wyke o Gaerfyrddn ei arestio'r diwrnod canlynol ac fe gafodd ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac un cyhuddiad o yrru'n beryglus, flwyddyn yn ddiweddarach.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun, gan gyflwyno ple euog i'r cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Fe wnaeth wadu'r cyhuddiad o yrru'n beryglus ar Stryd y Dŵr yng Nghaerfyrddin wedi'r gwrthdrawiad yn Llanpumsaint.
Fe gafodd corff Mr Jones ei ddarganfod ar dir yr eglwys leol ger Capel Bedyddwyr Caer Salem, a bu farw'r dyn 38 oed yn y fan a'r lle.
Clywodd agoriad cwest i'w farwolaeth ym mis Ionawr fod ci Mr Jones wedi ei ddarganfod gan rywun oedd yn pasio, a wnaeth gysylltu â'i wraig, gan arwain at ymgyrch chwilio am Mr Jones.
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC y byddai Daniel Wyke yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth ond ei fod wedi ei wahardd rhag gyrru.
Cafodd dyddiad dros dro o 30 Mawrth ei osod ar gyfer ei ddedfrydu.
