Dyn 28 oed wedi’i arestio yn Rotherham mewn cysylltiad â marwolaeth Ann Widdecombe

Llun: Reuters
Ann Widdecombe

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod dyn 28 oed wedi’i arestio yn nhref Rotherham yn Ne Swydd Efrog ar amheuaeth o lofruddio’r cyn-AS a’r cyn-ASE Ann Widdecombe.

Mae Rotherham tua 270 milltir i ffwrdd o gartref Ms Wddeccombe yng Nghernyw, lle daethpwyd o hyd i gorff y gwleidydd asgell dde ddydd Iau.

Dywedodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw fod y dyn wedi’i arestio mewn cyfeiriad yn ardal Rotherham yn Ne Swydd Efrog nos Sadwrn, gan ychwanegu nad oes dim tystiolaeth wedi dod i’r amlwg ar hyn o bryd i brofi unrhyw gymhellion gwleidyddol tu ôl i’r farwolaeth.

Mae’r unigolyn yn ddyn Prydeinig gwyn, ac yn parhau yn nalfa’r heddlu.

Mae'r dyn lleol a gafodd ei arestio'n wreiddiol ar ddechrau'r ymchwiliad wedi ei ryddhau'n gyfan gwbwl o'r ymchwiliad.

Mae teulu Miss Widdecombe wedi cael gwybod am y diweddariad.

Dywedodd yr heddlu: “Cawsom gefnogaeth gan Uned Plismona Gwrthderfysgaeth Gogledd-ddwyrain Lloegr a Heddlu De Swydd Efrog, a gynhaliodd yr arestiad ar ran Heddlu Dyfnaint a Chernyw.

“Ar hyn o bryd, does dim gwybodaeth o hyd i awgrymu bod hwn yn ddigwyddiad sy’n ymwneud â therfysgaeth, ac rydym ni’n parhau i arwain yr ymchwiliad.”

Cafodd Miss Widdecombe, 78 oed, ei chanfod yn farw yn ei chartref yn Haytor ar Dartmoor tua 11.40 fore Iau ar ôl iddi ddioddef anafiadau difrifol.

Dywedodd yr heddlu ddydd Sadwrn eu bod yn credu iddi gael ei hymosod bron i 24 awr cyn i’w chorff gael ei ganfod.

Dim patrwm o gamdriniaeth wedi’i ganfod

Mae Reform UK wedi gwirio ei negeseuon e-bost i geisio canfod unrhyw batrwm o gamdriniaeth tuag at Miss Widdecombe, ond heb ddod o hyd i unrhyw beth penodol, yn ôl arweinydd y blaid, Nigel Farage.

Wrth siarad â newyddiadurwyr yn Nyfnaint, dywedodd Mr Farage: “Rydw i wedi gofyn i’n timau diogelwch fynd drwy ein holl negeseuon e-bost i ddod o hyd i rai gafodd eu hanfon yn uniongyrchol at Ann, neu a oedd yn sarhaus neu’n ymwneud â hi.

“Felly, rydyn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi’r heddlu ym mhob ffordd.”

Image
Nigel Farage yn cael ei holi gan newyddiadurwyr yn agos i dy Widdecombe
Llun: PA

Pan gafodd ei holi a oedd Miss Widdecombe wedi derbyn negeseuon sarhaus yn ddiweddar, dywedodd: “Rydyn ni i gyd yn cael negeseuon e-bost sarhaus mewn bywyd cyhoeddus.

“Gallaf ddweud nad ydym wedi gallu adnabod patrwm penodol.

“Yn aml iawn mewn achosion fel hyn, byddech chi’n gweld neges gan unigolyn yn dod dro ar ôl tro.

“Allwn ni ddim adnabod unrhyw unigolyn o’n data ni.”

Ychwanegodd: “Camdriniaeth gyffredinol, oes. Mae hynny’n dod gyda bywyd cyhoeddus, boed hynny mewn pêl-droed, gwleidyddiaeth, cerddoriaeth neu beth bynnag.”

Dywedodd Mr Farage hefyd ei fod wedi siarad â phrif gwnstabl Heddlu Dyfnaint a Chernyw a chomisiynydd heddlu a throseddu’r ardal.

Yn ôl Mr Farage, mae’r llu yn cael cefnogaeth “holl adnoddau’r heddlu yn genedlaethol” wrth i’r ymchwiliad llofruddiaeth barhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.