Dyledion cynghorau dros £6.5 biliwn yn ôl ffigyrau newydd

Newyddion S4C
Cyngor Caerdydd / William Yarwood

Mae cyfanswm dyledion cynghorau Cymru dros £6.5 biliwn, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae Cynghrair y Trethdalwyr yn cyhuddo awdurdodau lleol o fenthyg arian yn ddiofal ac o fuddsoddi'n wael.

Yn ôl y grŵp ymgyrchu, trethdalwyr fydd yn talu'r pris yn y pen draw.

Ond mae'r Cynghorydd Alun Lenny, sy'n gyfrifol am gyllid yng Nghyngor Sir Gâr, yn dadlau bod cynghorau yn cario'r dyledion i ariannu datblygiadau mawr.

Mae Cynghrair y Trethdalwyr wedi dadansoddi data benthyg Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn ôl y ffigyrau, dau o gynghorau mwyaf Cymru o ran poblogaeth oedd â'r dyledion uchaf.

Roedd dyled Cyngor Caerdydd yn £1.14 biliwn, tra bod Cyngor Abertawe yn £629m.

Cyngor Wrecsam oedd nesaf, sef £542m, ac yna Cyngor Sir Gâr, sef £434m.

"Mae pobol yn wynebu eu treth cyngor yn cynyddu a dydyn nhw ddim yn gweld eu biniau yn cael eu casglu mor aml na'r tyllau yn y ffyrdd yn cael eu llenwi," meddai William Yarwood o Gynghrair y Trethdalwyr.

"Dydi prosiectau i wella delwedd ardaloedd ddim yn digwydd mor aml oherwydd bod awdurdodau lleol ar draws y wlad yn mynd yn fethdalwyr, mae yna fwy o ddyletswydd arnyn nhw ac mae gan drethdalwyr hawl i gael gwybod be'n union ydi dyledion eu cynghorau lleol."

'Hanfodol'

Mae cynghorau yn gyfrifol am nifer o wasanaethau pwysig, fel casglu sbwriel, gofal cymdeithasol ac ysgolion.

Yn ôl y Cynghorydd Alun Lenny, mae Cynghrair y Trethdalwyr yn "camliwio’r sefyllfa ryw ychydig".

"Mae cynghorau yn cario'r dyledion cyfalaf hir dymor yma i ariannu datblygiadau hanfodol fel cartrefi henoed, ysgolion, ffyrdd a thai cymdeithasol, pethau'n sy'n costio miliynau o bunnoedd wrth gwrs." 

Dywedodd bod benthyg arian yn lledaenu'r gost dros "oes yr ased" o hyd at 50 mlynedd fel bod "sawl cenhedlaeth o drethdalwyr" yn elwa o'r cyfleusterau.

Fe ddywedodd Dr Marlene Davies, arbenigwr ar lywodraeth leol, hefyd bod cynghorau yn benthyg arian i fuddsoddi.

"Chi ddim yn benthyg e i dalu cyflogau, chi'n datblygu rhywbeth o'r datblygiad. Mae hwnna wedyn yn creu gwaith a mwy o gyfleoedd i bobol a fyddwch chi'n gallu talu eich treth cyngor yn well falle os oes mwy o waith gyda chi. 

 "Mae e hefyd yn mynd i ddenu busnesau mewn i'r ardaloedd yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.