Dylai bwyd a diod iachach fod yn 'haws i'w darganfod' yng Nghymru yn ôl arolwg
Fe ddylai bwyd a diod iachach fod yn 'haws i'w darganfod' yng Nghymru yn ôl arolwg newydd.
Yn ôl arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) mae mwy na thri chwarter y bobl yng Nghymru yn cefnogi gwneud hysbysebu, cynigion arbennig, a hyrwyddiadau prisiau ar fwyd a diod iachach yn rhywbeth 'di-ofyn', gan ffocysu yn llai ar ddewisiadau llai iach mewn mannau bob dydd.
Roedd y mannau rheini yn cynnwys ysgolion, ysbytai, caffis, canolfannau hamdden a chanolfannau trafnidiaeth.
Fe eglurodd ICC y byddai gwneud bwydydd iach yn "ddi-ofyn" yn golygu darparu rhagor o opsiynau sy'n is mewn calorïau, braster, siwgr a halen, yn ogystal â chynnig meintiau dognau iachach a gwneud diodydd a chyfwydydd iachach, heb siwgr, yn opsiynau safonol i'w cynnig gyda phrydau bwyd.
At ei gilydd, roedd 81% o bobl yn cefnogi gwneud bwyd a diod iachach yn opsiwn di-ofyn mewn lleoedd sy'n cael eu hariannu yn gyhoeddus.
Roedd y rhan fwyaf o bobl yn credu y dylai gwybodaeth am faeth fod ar gael ar gyfer bwyd a diod sy'n cael ei baratoi y tu allan i'r cartref, gyda 70% yn nodi bod ei angen gyda bwyd bob amser, a 24% yn awgrymu y dylai fod ar gael ar gais.
Ar gyfer diodydd, roedd 66% yn credu y dylai gwybodaeth faethol fod ar gael bob amser ac mae 27% yn credu y dylai fod ar gael ar gais.
'Ni ddylai gwneud dewis iach fod yn anodd'
Dywedodd Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod pobl yng Nghymru am iddi fod yn haws gwneud dewisiadau iachach pan maen nhw’n bwyta i ffwrdd o adref.
"Ni ddylai gwneud dewis iach fod yn anodd, yn enwedig yn y mannau cyhoeddus a'r gwasanaethau rydyn ni i gyd yn eu defnyddio. Mae gan y lleoliadau hyn rôl bwysig i'w chwarae wrth wneud dewisiadau iachach yn hawdd i'w canfod, eu deall a'u dewis.” meddai.
Dywedodd Pennaeth Polisi Safonau Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Steve Adie, fod hyn yn dangos bod pobl yng Nghymru eisiau gwneud dewisiadau gwybodus am y bwyd maen nhw'n ei brynu:
“Er mai busnesau a sefydliadau cyhoeddus sy'n gwneud penderfyniadau am y bwyd sydd ar gael, mae labelu clir, cywir ac hygyrch yn chwarae rôl bwysig wrth helpu defnyddwyr i ddeall eu dewisiadau a dewis beth sy'n iawn iddyn nhw.” meddai.