Dubai: Dylanwadwraig yn 'wynebu sgwad saethu' ar ôl cael ei chyhuddo o lofruddio ei chariad
Mae dylanwadwraig TikTok 23 oed sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio ei chariad yn Dubai yn wynebu’r posibilrwydd o gael ei dienyddio gan sgwad saethu, meddai grŵp ymgyrchu.
Dywedodd Detained in Dubai eu bod yn cynorthwyo Brooke George, o Gaint yn ne-ddwyrain Lloegr, sy’n honni iddi drywanu ei phartner Prydeinig 26 oed er mwyn amddiffyn ei hun ar ôl iddi gael ei "dyrnu dro ar ôl tro" gan "ofni am ei bywyd".
Roedd Ms George, cyn-weithiwr John Lewis, wedi cwrdd â’i phartner ar Facebook ac wedi teithio i Dubai ar ôl datblygu perthynas ag ef ar-lein, meddai’r grŵp.
Er bod ei hymweliad cyntaf â Dubai wedi bod yn un positif, dywedodd y grŵp fod Ms George wedi honni bod ei phartner wedi dod yn "gynyddol reolaethol ac ymosodol" yn ystod ei hail ymweliad.
Ar ôl noson ym mar McCafferty’s yn Jumeirah Village, fe wnaeth Ms George honni fod ei phartner wedi meddwi ac wedi ymosod arni.
Yn ôl ei theulu, fe wnaeth hi gysylltu â nhw mewn panig ar ôl cael ei "dyrnu dro ar ôl tro", ac roedd wedi trefnu hediad adref cyn dychwelyd i’r fflat i gasglu ei phasbort, meddai Detained in Dubai.
Dywedodd y grŵp fod ei theulu yn honni ei bod yn "crio ac yn erfyn i gael ei phasbort yn ôl pan gafodd ei dyrnu’n galed yn ei hwyneb a dioddef ymosodiad".
"Mae Brooke yn dweud ei bod wedi ofni am ei bywyd ac, wrth estyn am gyllell cegin oedd o fewn ei chyrraedd, fe wnaeth amddiffyn ei hun," ychwanegodd.
Dywedodd Detained in Dubai fod "Brooke wedi’i chleisio a’i hanafu" pan gafodd ei harestio yn ystod oriau mân bore dydd Llun a’i chyhuddo o lofruddiaeth "er nad oedd yr amgylchiadau wedi cael eu hymchwilio’n drylwyr".
Yn ôl y grŵp, roedd Ms George wedi cael "ychydig iawn o esboniad o’r achos oherwydd y rhwystr iaith" yn ogystal â chael ei "hamddifadu o fynediad at ei llysgenhadaeth a’i gorfodi i wneud datganiadau heb bresenoldeb cyfreithiwr".
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym mewn cysylltiad â menyw Brydeinig sydd yn y ddalfa yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Rydym yn cefnogi ei theulu ac mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol."
Dywedodd mam y dylanwadwraig, Thereza George, ei bod yn "bryderus iawn am ei lles".
Mewn datganiad, dywedodd: "Ar ôl i Brooke ddychwelyd i Dubai am yr eildro, roedd y berthynas rhyngddynt wedi newid yn amlwg.
"Y diwrnod cyn y digwyddiad, nid oedd hi’n ymddangos fel ei hun arferol. Roedd hi’n dawelach ac nid mor hapus a llawen ag arfer, ond ni ddywedodd wrthyf pam. Y noson honno aethon nhw i far yn Dubai.
"Pan siaradais â Brooke yn syth ar ôl y digwyddiad, roedd hi wedi dychryn yn lân. Nid wyf erioed wedi gweld fy merch mor ofnus yn fy mywyd. Roedd hi’n crio a chrio. Roeddwn yn gallu gweld bod un o’i llygaid wedi chwyddo’n ofnadwy ac yn dechrau cau.
"Roedd y ferch y siaradais â hi y noson honno wedi ei dychryn yn llwyr. Rwy’n credu’n gryf ei bod yn trio ei gorau i ddod adref a dianc rhag beth bynnag oedd wedi digwydd iddi."
Dywedodd Radha Stirling, prif weithredwr Detained in Dubai, y dylai ymchwilwyr "nid yn unig drin Brooke fel rhywun sy'n cael ei hamau o lofruddio, ond hefyd archwilio’r posibilrwydd ei bod yn ddioddefwr trais difrifol ac o bosib wedi'i hecsbloetio".
