Y DU yn gwrthwynebu cytundeb terfynol COP31
Mae’r DU wedi beirniadu’r methiant “hynod siomedig” i gyrraedd cytundeb yn uwchgynhadledd hinsawdd COP31 y Cenhedloedd Unedig.
Roedd y DU wedi gwrthwynebu’n ffurfiol cytundeb arfaethedig sy’n “ein symud yn ôl o ran y wyddoniaeth” o fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Miatta Fahnbulleh, ei bod yn siomedig bod y trafodaethau wedi methu â chynhyrchu’r “uchelgeisiau dewr” sydd eu hangen, wrth i drafodaethau yn ninas Antalya yn Nhwrci anghytuno ynghylch drafft o gytundeb nad oedd yn sôn o gwbl am danwyddau ffosil.
Ymunodd Prydain â’r Undeb Ewropeaidd a nifer o flociau a chenhedloedd eraill i wrthwynebu drafft y cytundeb terfynol.
Doedd y cytundeb ddim yn â sôn am danwyddau ffosil nac yn galw am symud i ffwrdd o lo, olew a nwy fel ffynonellau ynni.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Fahnbulleh: “Nod y COP hwn oedd wynebu gwirioneddau anodd – bod cynhesu byd-eang ar fin mynd y tu hwnt i 1.5C, a bod yn rhaid i ni weithredu gyda brys cynyddol i fynd i’r afael â hynny.
“Roedd yr amgylchiadau’n galw am uchelgeisiau dewr, ac rydym wedi bod yn gweithio’n ddi-baid i geisio cyrraedd consensws. Mae’n hynod siomedig nad ydym wedi gallu gwneud hynny.”
“Dim ond cryfhau ein penderfyniad i weithio gyda phartneriaid ledled y byd ar y cynnydd gwirioneddol a wnaed yn Antalya ar fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd y mae hyn yn ei wneud.“Mae ein hymrwymiad i amlochrogiaeth a diogelu ein cymunedau rhag realiti gor-gyrraedd yn ddiysgog.”
Ymrwymo
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyflymu’r newid i ffwrdd o danwydd ffosil, cefnogi trydaneiddio glân, yn ogystal â gwella mynediad at gyllid i wledydd sy’n addasu i newid hinsawdd.
Dywedodd llefarydd eu bod yn “barod i ddychwelyd i Cop32 yn Addis Ababa gyda datblygiadau wedi’u gwneud, penderfyniad hyd yn oed yn gryfach a phroses Cop well”.
Daeth datganiad y DU wrth i’r uwchgynhadledd pythefnos yn Antalya redeg bron i ddeuddydd y dros amser yng nghanol ffraeo ynghylch y cytundeb terfynol, sydd angen consensws bron yn unfrydol i basio.
Gwrthododd yr Undeb Ewropeaidd y drafft, gyda chynrychiolydd y bloc yn dadlau i’r ddogfen gael ei “herwgipio” gan wladwriaethau olew.
