Dringwr wedi marw a dau wedi eu hanafu yn Sir Benfro
Mae dringwr wedi marw a dau arall wedi eu hanafu ger clogwyni yn Sir Benfro ddydd Iau.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i glogwyni ger Penrhyn Sant Gofan tua 16.00 ddydd Iau, yn dilyn adroddiadau fod tri dringwr wedi mynd ar goll.
Roedd sawl hofrennydd yn rhan o’r ymdrechion i ddod o hyd i’r dringwyr, gan gynnwys hofrennydd Gwylwyr y Glannau, hofrennydd o Wylwyr y Glannau Iwerddon, ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Roedd bad achub o orsaf RNLI Angl hefyd yn y lleoliad, yn ogystal â chriwiau Gwylwyr y Glannau o Abergwaun, Sant Gofan a Dinbych y Pysgod, a swyddogion Heddlu Dyfed Powys.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y Gwasanaeth Ambiwlans wedi cysylltu gyda'u swyddogion am tua 16.25 ddydd Iau yn dilyn pryderon am les tri unigolyn ym Mhenrhyn Sant Gofan.
"Anfonwyd swyddogion i'r lleoliad ynghyd â nifer o asiantaethau eraill," meddai'r heddlu.
"Cafodd dau eu cludo i'r ysbyty i gael triniaeth am anafiadau nad oeddent yn cael eu hystyried yn fygythiad i fywyd.
"Yn anffodus, bu farw un person yn y fan a'r lle. Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, mae eu perthnasau agosaf wedi cael gwybod ac mae ein meddyliau gyda'r teulu."
Mae ardal Penrhyn Sant Gofan yn boblogaidd iawn gyda dringwyr, gyda hyd at 300 o lwybrau dringo i’w cael ar y clogwyni calchfaen.