Dringo’r Wyddfa naw gwaith mewn 48 awr i godi ymwybyddiaeth o unigrwydd

ITV Cymru
MenTribe

Mae grŵp o ddynion o ogledd Cymru wedi gosod her o ddringo’r Wyddfa naw gwaith mewn 48 awr - sy'n cyfateb â dringo uchder Everest.

Yn ôl elusen MenTribe sy’n trefnu’r her, y bwriad yw dod a dynion at ei gilydd yn yr awyr iach a chael sgyrsiau gonest ac emosiynol.

Mae Callum Tipton, sy’n un o’r sylfaenwyr yr elusen ac sy’n gyn-filwr, yn dweud mai’r gobaith yw taclo unigrwydd ymysg dynion.

“I nifer o’r dynion sy’n dod, eu prif frwydr yw unigrwydd. Gobaith ni yw atal hyn," meddai.

Bydd y sialens yn digwydd ar 17 ac 18 Ebrill gyda 12 o ddynion yn gobeithio’i chwblhau mewn un taith barhaus.

Image
“Roedd pawb yn brysur… dechreuais i gerdded lan mynyddoedd ar ben fy hun” Llun Callum Tipton o Instagram MenTribe.
Callum Tipton (Llun: Instagram MenTribe)

Sefydlodd Callum y grŵp 18 mis yn ôl er mwyn cael cyfleoedd i siarad tra’n cadw’n heini ar ôl gadael y fyddin.

“Cefais fy rhyddhau o'r fyddin am resymau meddygol. Pan des i nôl doeddwn i ddim yn siŵr beth i neud, roedd pawb yn brysur gyda'u bywydau eu hunain. 

"Dechreuais i gerdded i fyny mynyddoedd ar ben fy hun," meddai.

“Nid oes digon o fannau cymunedol, yn enwedig rhai i ffwrdd o gartref a gwaith sy’ ddim yn costio arian mewn amseroedd caled”.

Ychwanegodd Callum ei fod yn meddwl bod dynion efallai wedi eu hadeiladu’n wahanol ac yn llai parod i drafod teimladau.

Nid yw’r her yn un sy’n ceisio torri unrhyw record, ond yn hytrach i godi arian tuag at elusen MenTribe, sy’n creu llefydd i ddynion allu dod at ei gilydd yn gymdeithasol.

Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2025, bu 440 o farwolaethau trwy hunanladdiadau gan bobl o Gymru, gyda dynion yn cyfri am 77% o’r marwolaethau.

Roedd y marwolaethau ar eu huchaf ymysg dynion rhwng 35 a 44 oed.

Os am gefnogaeth, mae modd cysylltu â'r Samariaid unrhyw awr o'r dydd drwy ffonio 116 123.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.