Diwrnod olaf ymgyrchu ar gyfer Etholiad y Senedd
Mae'r pleidiau gwleidyddol yn cychwyn ar ei diwrnod olaf yn ymgyrchu.
Ddydd Iau bydd y cyhoedd yn bwrw eu pleidlais er mwyn penderfynu pwy fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru yn y Senedd.
Y blaid Lafur sydd wedi bod mewn grym ym mae Caerdydd ers dros chwarter canrif.
Ond mae'r arolygon barn yn darogan mai Reform a Phlaid Cymru fydd yn cipio'r mwyaf o seddi.
Yn ôl yr arolygon ras dau geffyl fydd hi rhwng y ddwy blaid yma gyda Llafur yn disgyn i'r trydydd safle.
Am y tro cyntaf eleni fe fydd pobl yn pleidleisio am 96 o aelodau. 60 o aelodau sydd wedi bod wrth y llyw tan nawr.
Mae yna hefyd 16 etholaeth newydd yn yr etholiad yma gyda chwe aelod yn cael eu dewis o bob etholaeth a hynny trwy system newydd- system gyfrannol.
7:00 bydd y blychau pleidleisio yn agor ar ddydd Iau ac fe fyddan nhw yn cau am 22:00.
Yna dydd Gwener bydd y cyfrif yn digwydd a hynny yn ystod y dydd yn hytrach nag yn y nos.
Y gred yw na fydd un blaid yn ennill mwyafrif fydd yn golygu cydweithio mewn rhyw ffordd gyda phleidiau eraill.
