Menyw o Gaerdydd yn rhybuddio am beryglon yr haul ar ôl diagnosis canser y croen
Mae menyw o Gaerdydd yn rhybuddio pobl am beryglon yr haul wedi iddi gael diagnosis o ganser y croen.
Daw ei rhybudd wrth i ystadegau newydd ddangos fod un ymhob naw person yng Nghymru yn llosgi eu croen ar bwrpas yn yr haul neu trwy ddefnyddio gwelyau haul (sun beds).
Cafodd Kate Howson ddiagnosis o melanoma - y math o ganser y croen mwyaf difrifol - ar ôl teithio'r byd yn 2025.
Fe wnaeth hi sylwi ar fan ar ei chroen (man geni) ar ei chefn a oedd wedi newid lliw cwpl o fisoedd yn ddiweddarach.
"Roeddwn i'n crafu un rhan o fy nghroen ar fy ngefn, a man ar y croen doeddwn i heb sylwi arno o'r blaen, ond wedyn nes i sylweddoli ei fod ychydig yn goch," meddai wrth ITV Cymru.
"Doeddwn i ddim yn teithio 'nôl i Gymru am rai misoedd, felly nes i benderfynu gwneud dim byd."
Ar ôl cysylltu â'i meddyg teulu, cafodd ei chyfeirio at ddermatolegydd arbenigol. Fe wnaeth y dermatolegydd gadarnhau ei fod yn ganser y croen cam 2. Fe ddatblygodd i fod yn gam 3 yn ddiweddarach.
"Dwyt ti ddim yn disgwyl iddo ddigwydd i ti, delio gyda chanser pan rwyt ti yn dy 30au," meddai.
"Yn sicr roedd yn sioc i fi."
Mae ymchwil newydd gan elusen Melanoma Focus wedi canfod bod bron i draean o oedolion yng Nghymru byth yn defnyddio eli haul yn ystod misoedd yr haf.
Roedd yr ymchwil hefyd wedi darganfod bod un o bob naw oedolyn yng Nghymru yn llosgi eu croen yn fwriadol yn yr haul neu trwy ddefnyddio gwelyau haul. Doedd 22% erioed wedi clywed am yr indecs UV yn ôl yr ymchwil.
'Syfrdanol'
Mae Kate Howson yn dweud bod y canfyddiadau yn "syfrdanol".
"Mae gennym ni ddiwylliant yn y DU i wneud y mwyaf o'r haul pan mae allan, treulio amser tu allan mewn tafarndai, mwynhau'r haul gyda'n ffrindiau, a dwi'n meddwl bod dal modd gwneud hynny ond dwi'n credu bod modd gwneud hynny mewn ffordd ddiogel."
Mae'r ymgynghorydd oncoleg, Dr Ricky Frazer yn dweud bod yna fanteision amlwg i iechyd meddwl trwy fod allan yn yr haul. Er hynny mae'n rhybuddio bod angen mwy o ymwybyddiaeth o'i effaith.
"Mae llosgi mwy na phum gwaith yn dyblu'ch siawns o gael canser y croen yn eich bywyd, felly mae'n hollbwysig nad yw pobl yn llosgi eu hunain.
"Mae'n bwysig gorchuddio, mae'n bwysig osgoi'r oriau hynny lle mae'r haul ar ei fwyaf peryglus i'r croen.
"Gwnewch hi'n arferiad i wirio'r indecs UV bob dydd a gwisgo eli haul neu orchuddio'ch croen pryd bynnag y mae'n dri neu'n uwch."