Cyhuddo dyn o ymosodiad honedig ar ddyn 60 oed yn Abertyleri
Mae dyn wedi ei gyhuddo ar ôl i ddyn 60 oed gael anaf difrifol i'w ben yn Abertyleri, Blaenau Gwent, yn gynnar fore Llun.
Yn ôl Heddlu Gwent, cafodd y dyn ei ddarganfod wedi ei anafu ar heol gul oddi ar Division Street.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty, ac mae e mewn cyflwr difrifol.
Mae dyn 55 oed sydd wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad ac wedi ei gadw yn y ddalfa.
Bydd disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher.
