Disgwyl tywydd poetha’r flwyddyn hyd yma yng Nghymru

Haul- PA

Mae disgwyl i Gymru brofi tywydd poetha’r flwyddyn hyd yma ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i rannau gorllewinol o'r wlad weld tymereddau o thua 24C sydd yn uwch na’r cyfartaledd am y DU o rhwng 18C a 23C.

Mae hyn yn uwch na’r tymheredd cyfartalog arferol ar gyfer dechrau fis Ebrill sydd rhwng 12C a 15C.

Daw’r tywydd cynnes yn sgil Storm Dave wnaeth achosi difrod ar draws gogledd-orllewin Cymru a rhannau o'r DU gyda gwyntoedd o hyd at 93mya wedi'u cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri dros benwythnos y Pasg.

Mae disgwyl i ddydd Mercher fod yn boethach fyth cyn i dymereddau gwympo ddydd Iau.

Dywedodd meteorolegydd y Swyddfa Dywydd Greg Dewhurst: “Mae'r gwynt yn dod o gyfeiriad deheuol heb lawer o gymylau."

Mae hefyd rhybudd coch am baill mewn grym ledled Cymru a Lloegr ar gyfer dydd Mawrth o ganlyniad i'r tywydd cynhesach, gyda lefel paill coed yn arbennig o uchel. 

“Gyda gwyntoedd cynnes, heulog ac ysgafn, mae'r holl goed yn dod allan,” meddai Mr Dewhurst. 

Er efallai y bydd dydd Mercher yn gynhesach na dydd Mawrth, mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am “newid mawr” ddydd Iau pan fydd disgwyl i'r tymheredd ostwng i rhwng 10C a 13C.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: “Mae’r cyfan yn dibynnu’n llwyr ar gyfeiriad y gwynt ar yr amser yma o’r flwyddyn.

“Am yr ychydig ddyddiau nesaf rydym yn denu’r gwynt cynnes o'r de, gyda’r tymheredd yn cyrraedd canol yr 20au.

“Wrth i ni fynd i ddydd Iau, byddwn yn gweld y tymheredd yn dychwelyd i’r arfer ar gyfer yr amser o’r flwyddyn wrth i'r tywydd ddod yn fwy amrywiol gyda thipyn o law.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.