Teyrngedau i ddyn busnes poblogaidd o Lanelli sydd wedi marw'n sydyn
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn busnes poblogaidd o Lanelli sydd wedi marw'n sydyn dros y penwythnos.
Roedd Damian Hart yn farbwr adnabyddus yn y dref cyn ei farwolaeth yn 51 oed.
Mae ymgyrch codi arian wedi ei sefydlu er mwyn cynnig cymorth i'w deulu yn ystod eu profedigaeth.
Ymysg y rhai sydd wedi rhoi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol y mae 'r cynhyrchydd teledu a'r cyfarwyddwr Emyr Afan.
Dywedodd fod un o gymeriadau mwyaf disglair a mwyaf unigryw Llanelli wedi mynd yn rhy gynnar.
Mae nifer o glybiau chwaraeon y dref wedi rhannu eu teyrngedau i Mr Hart hefyd.
Dywedodd Clwb Rygbi New Dock Stars ei fod "yn rhan enfawr o'n clwb, gan chwarae rhan hanfodol wrth ddod â chynifer o'r chwaraewyr sy'n gwisgo'r crys heddiw i'r amlwg.
"Gadawodd ei ddylanwad, ei ymroddiad, a'i bersonoliaeth farc parhaol ar bawb a gafodd y fraint o'i adnabod. Mae cymaint o fewn ein clwb yn well am fod wedi adnabod Damian, ac ni fydd yr hyn a roddodd i New Dock Stars byth yn cael ei anghofio."
Dywedodd Clwb Rygbi Ffwrnes fod Mr Hart nid yn unig yn aelod gwerthfawr o gymuned Ffwrnes "ond i Gymuned Llanelli gyfan."
"Mae'r byd yn sicr wedi colli rhywfaint o'i ddisgleirdeb gyda marwolaeth Damian."
Ychwanegodd Clwb Rygbi Llanelli Wanderers: "Mae'r clwb yn drist iawn o glywed y newyddion am farwolaeth Damian Hart.
"Roedd Damian yn gefnogwr gwerthfawr, yn noddwr hael, ac yn dad balch i un o'n chwaraewyr hŷn.
"Roedd Damian yn rhan annwyl o'n cymuned, a bydd pawb sy'n gysylltiedig â'r clwb yn colli ei bresenoldeb yn fawr. Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad diffuant gyda'i deulu a'i ffrindiau yn ystod yr amser anodd hwn."
Llun teulu
