Y Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu nad ydynt o blaid cael gwared ar y Senedd
Mae Dirprwy Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi mynnu nad yw ei gyd-aelodau o blaid cael gwared ar y Senedd.
Gyda mis i fynd tan etholiad y Senedd, mae’r arolygon barn diweddaraf yn awgrymu mai cyfran o 7% yn unig fydd gan y Ceidwadwyr eleni – sydd yn sylweddol is na’r 26.1% gafodd y blaid yn 2021.
Pe bai canlyniadau’r etholiad yn adlewyrchu’r arolwg gan YouGov ar ran ITV dim ond un sedd fydd gan y Ceidwadwyr ar gyfer tymor nesaf y Senedd, a hynny i’r arweinydd Darren Millar yng Nghlwyd.
Plaid Cymru yw’r ceffylau blaen gyda chyfran o 33%, tra bod yr arolwg yn rhagweld y bydd Reform UK yn sicrhau 30 o aelodau gyda 27% o’r bleidlais.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2036505383913578789?s=20
Gyda phoblogrwydd Reform ar gynnydd, mae sawl aelod o’r Ceidwadwyr wedi eu gadael dros y misoedd diwethaf ac ymaelodi â’r blaid sydd bellach dan arweiniad Dan Thomas, gan gynnwys y cyn-weinidog addysg cysgodol Laura Anne Jones a’r cyn-weinidog iechyd cysgodol James Evans.
Wrth siarad ar gyfres Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, bod yna “wahaniaethau enfawr” rhyngddyn nhw a Reform.
“Wrth gwrs, y'n ni wedi, yn anffodus, colli rhai aelodau i Reform a y'n ni’n derbyn bod ambell waith yn gallu bod yn dalcen caled i ni,” meddai Mr Davies.
“Ond y neges dwi’n cael ar y stepen drws ar hyn o bryd, bod mwyafrif o bobl sydd wedi cefnogi ni yn mynd i gefnogi ni unwaith eto ym mis Mai.
“Felly dwi’n hyderus bod ni’n gallu ennill nifer o seddi pan ddaw’r etholiad.”
Ychwanegodd: “Mae yna wahaniaethau enfawr rwy'n credu rhwng ni a Reform. Y'n ni’n cynnig cynllun credadwy, y'n ni’n cynnig gobaith i bobl Cymru.
“Dyna’r cynllun y'n ni’n ei roi gerbron pobl Cymru ar hyn o bryd. Y'n ni eisiau canolbwyntio ar yr economi.
“Y'n ni wedi gwneud hi'n eithaf clir y byddwn ni’n datgan argyfwng iechyd er mwyn taclo’r problemau sydd yn ein gwasanaeth iechyd ni.
“Felly mae yna bolisïau enfawr a gwahanol rhwng ni a Reform.”
'Plaid unedig iawn'
Mae rhai aelodau wedi datgan eu cefnogaeth i gael gwared ar y Senedd dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y cyn-arweinydd Andrew RT Davies.
Ond dywedodd Mr Davies nad oedd unrhyw ddryswch dros y pwnc wrth wynebu’r etholiad.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2041136428252336548?s=20
“Mae'n polisi ni yn glir. Rydym eisiau cadw'r Senedd, rydyn ni eisiau gwneud y Senedd i weithio, rydym eisiau gwneud y Senedd yn llawer mwy effeithiol. A dyna'n polisi, dyna'n polisi ni ers 1999," meddai.
“Mae'r ymgeiswyr i gyd wedi arwyddo lan i'r polisi yma bod ni eisiau gwneud y Senedd i weithio dros bobl Cymru, a dyna beth fyddwn ni'n neud os byddwn ni'n ennill yr etholiad ym mis Mai.
“Ni'n blaid unedig iawn, mae'n polisi ni'n glir pan ddaw i ddatganoli. Felly mae'r polisi yn hollol glir o'n rhan ni.”
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru: "Mae'r Ceidwadwyr a Llafur yn rhannu'r cyfrifoldeb dros dorri gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru.
"Mae pobl Cymru eisiau newid gwirioneddol ac maen nhw'n gwybod mai dim ond Reform sydd yn cynnig hynny."