Etholiad 26: Arolwg yn awgrymu y gallai Eluned Morgan golli ei sedd

Eluned Morgan yng nghynhadledd y blaid Lafur

Mae’r arolwg barn diweddaraf ar gyfer etholiad Senedd Cymru ym mis Mai yn awgrymu y gallai'r Prif Weinidog Eluned Morgan golli ei sedd.

Gydag ychydig dros chwe wythnos i fynd tan yr etholiad, mae’r arolwg gan YouGov i ITV Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, wedi defnyddio’r model MPR diweddara i greu rhagolwg o sut fydd pob etholaeth yn pleidleisio. 

Er gostyngiad yn y gyfran o bleidleisiau i 33%, byddai Plaid Cymru yn dal ar y blaen i fod y blaid fwyaf gyda rhagolygon yn awgrymu y gallai ennill 43 sedd, gan adael Rhun ap Iorwerth chwe sedd yn fyr o ffurfio mwyafrif yn y Senedd. 

Mae Reform UK wedi cau'r bwlch ar Blaid Cymru i 27% ers yr arolwg tebyg diwethaf a fyddai, yn ôl yr arolwg newydd, yn golygu 30 aelod o'r Senedd.

Mae cynnydd i Lafur yn eu rhoi'n drydydd ar 13% byddai'n golygu 12 o seddi - sy'n golygu na fyddai plaid Eluned Morgan yn ethol neb mewn pedair etholaeth gan gynnwys ei hetholaeth ei hun yng Ngheredigion a Sir Benfro.

Er y gallai 12% y Blaid Werdd eu harwain at gipio 10 sedd, byddai'r Ceidwadwyr yn wynebu chwalfa yn y Senedd gyda’r rhagolygon o 7% yn arwain at un sedd yn unig yng Nghlwyd i'r arweinydd Darren Millar. 

Mae'r arolwg yn awgrymu y byddai'r 5% o'r bleidlais i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gadael plaid Jane Dodds heb unrhyw gynrychiolaeth yn y Senedd ym mis Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.