Teulu o Wrecsam yn galw am godi'r uchafswm iawndal ar gael i ddioddefwyr trosedd

Craig Lewis-Williams a'i fab Cai
Craig Lewis-Williams a'i fab Cai

Mae teulu o Wrecsam wedi galw am godi'r uchafswm iawndal sydd ar gael i ddioddefwyr trosedd, gan ddweud nad yw'r swm yn ddigonol i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Cafodd y gyfradd uchaf bresennol o £500,000 ei gosod tri degawd yn ôl ym mis Ebrill 1996 gan yr Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol (CICA).

Mae'r iawndal yn cael ei dalu i ddioddefwyr trosedd sydd wedi dioddef anafiadau difrifol sy'n newid eu bywydau, gan gynnwys parlys a niwed i'r ymennydd.

Mae'n cael ei ddarparu ar gyfer gofal y dioddefwyr yn ogystal â'u dyfodol hirdymor, gan fod eu hanafiadau yn aml yn golygu nad ydyn nhw'n gallu gweithio.

Ond mae ffigyrau newydd yn awgrymu pe bai'r swm uchaf wedi codi yn unol â chwyddiant, y byddai'n fwy na dwbl y terfyn presennol - sef £1,015,000.

Dywedodd un ymgyrchydd fod y swm presennol yn "sarhad" i ddioddefwyr a theuluoedd.

Mae’r rhai sydd wedi eu heffeithio, ynghyd â chyfreithwyr yn y maes, wedi codi pryderon y bydd yr arian yn dod i ben, gan eu gadael heb gefnogaeth hanfodol ac effeithio ar ansawdd eu bywydau yn y dyfodol.

Cafodd Craig Lewis-Williams, 50 oed, niwed i’r ymennydd ar ôl dioddef ymosodiad wrth gerdded adref ym mis Tachwedd 2021. O ganlyniad, nid yw'n gallu llyncu na cherdded, ac mae ganddo broblemau gyda'i gof.

Yn ddiweddarach, cafodd strôc yn ystod ei driniaeth a wnaeth barlysu ochr chwith ei gorff.

Mae Mr Lewis-Williams bellach yn cael ei fwydo trwy diwb ac mae gofalwyr yn ymweld chwe gwaith y dydd.

Cafodd ei ymosodwr, Adam Chamberlin o Lai, ddedfryd o garchar am fwy na blwyddyn ar ôl pledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol.

Fe wnaeth Mr Lewis-Williams, a oedd yn rheolwr warws cyn yr ymosodiad, dderbyn y taliad uchaf gan CICA ar apêl. 

'Ddim yn mynd ddigon pell'

Fodd bynnag, mae ei wraig, Anna, 45 oed, yn ofni na fydd yr iawndal yn mynd yn ddigon pell.

"Bydd angen ail-brynu pethau fel ei gadair olwyn a'r fan, maen nhw'n bethau mawr i'w talu amdanyn nhw," meddai.

"Ni allwch fynd allan a phrynu car am £500, neu £1,000, oherwydd mae'n rhaid i ni addasu popeth.

"Fydd o ddim yn para. Mae o newydd droi’n 50 oed ac mae disgwyl i ddyn fyw rhwng 75 ac 80 oed, felly mae’n 25-30 mlynedd arall.

"Mae gennych chi’ch car, mae gennych chi’ch teulu, mae prisiau’n llawer uwch nag oedden nhw 30 mlynedd yn ôl, mae gennym ni’r argyfwng costau byw a’r hyn sy’n digwydd yn Iran, mae’n rhaid i’r arian bara’n hirach."

Image
Craig Lewis-Williams a'i wraig Anna
Craig Lewis-Williams a'i wraig Anna

Dywedodd Neil Sugarman, cyfreithiwr sydd wedi gweithio ar achosion o anafiadau troseddol ac sy'n gyn-lywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr Anafiadau Personol (APIL), ei bod yn amser i Lywodraeth y DU edrych ar y terfyn.

"Dylai 30 mlynedd ers cyflwyno'r dyfarniad uchaf o £500,000 i'r dioddefwyr troseddau diniwed sydd wedi'u hanafu fwyaf difrifol fod yn amser i'r Llywodraeth ddeffro i'r ffaith nad yw hyn yn dderbyniol ddim mwy," meddai.

"I oedolion a phlant sy'n dioddef anaf trychinebus i'r ymennydd, sydd wedi'u cyfyngu i gadair olwyn neu y mae eu bywydau wedi'u difetha gan gam-drin, mae'r ffaith eu bod yn gorfod ymdopi â'r swm hwn am oes heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain yn sarhad."

Mae Kim Harrison, cyn-lywydd APIL, wedi galw am adolygiad o'r terfyn, gan ddweud fod y rhai sydd wedi'u heffeithio wedi cael eu hanwybyddu "am rhy hir".

"Er nad yw gosod uchafswm ar iawndal i oroeswyr trosedd yn berffaith, dylid o leiaf cydnabod na fydd y swm a gafodd ei bennu pan osodwyd yr uchafswm yn 1996 yn mynd mor bell yn arian heddiw, tri degawd yn ddiweddarach," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae ein meddyliau gyda holl ddioddefwyr troseddau treisgar.

"Rydym yn gwneud popeth posib i sicrhau bod goroeswyr dewr yn cael y gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu, gyda dros £164 miliwn wedi’i dalu gan y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol sy'n cael ei ariannu gan drethdalwyr yn 2024/25."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.