Aaron Ramsey wedi ymddeol o chwarae pêl-droed

Ramsey

Mae capten Cymru, Aaron Ramsey, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymddeol o chwarae pêl-droed.

Fe fydd Ramsey yn cael ei gofio fel un o chwaraewyr gorau yn hanes pêl-droed Cymru, gan chwarae rhan allweddol wrth i'r tîm cyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016, Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth, dywedodd nad oedd "wedi bod yn benderfyniad hawdd i'w wneud".

Dywedodd: "Ar ôl llawer o ystyriaeth, rwyf wedi penderfynu ymddeol o bêl-droed. Yn gyntaf, rwyf am ddechrau gyda Chymru. 

"Mae wedi bod yn fraint i mi wisgo crys Cymru a phrofi cymaint o eiliadau anhygoel ynddo. 

"Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb fewnbwn anhygoel yr holl reolwyr rwyf wedi chwarae o danynt a'r holl staff sydd wedi fy helpu mewn sawl ffordd.

"I'r Wal Goch. Rydych chi wedi bod yno trwy'r amseroedd da a drwg! Rydych chi wedi bod yno trwy'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau, ac rydych chi wedi bod yn rhan hanfodol ac anhepgor o'n llwyddiant. 

"Ni allaf ddiolch digon i chi. Rydym wedi bod trwy bopeth gyda'n gilydd ac mae wedi bod yn anrhydedd eich cynrychioli. Diolch."

Diolchodd hefyd i'r holl glybiau yr oedd wedi chwarae iddynt. 

"Diolch i'r holl reolwyr a staff sydd wedi fy helpu i allu byw fy mreuddwyd a chwarae ar y lefel uchaf. 

"A diolch yn fawr iawn i'm gwraig a'm plant a'm holl deulu. Hebdoch chi wrth fy ochr drwy'r amser, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl."

Seren ifanc

Dros bron i ddau ddegawd fel chwaraewr pêl-droed proffesiynol, fe chwaraeodd Aaron Ramsey 548 o gemau dros saith clwb.

Fe ddechreuodd y cyfan pan ymunodd gydag academi Caerdydd yn wyth oed, ar ôl creu argraff mewn twrnamaint yr Urdd.

Ef oedd y chwaraewr ieuengaf i chwarae dros dîm cyntaf yr Adar Gleision yn 2007, ag yntau’n 16 mlwydd a 124 diwrnod oed. Fe chwaraeodd 22 gêm dros y clwb, cyn arwyddo dros Arsenal am £4.8 miliwn yn 2008.

Image
Rambo
Fe chwaraeodd Ramsey 22 gêm dros Gaerdydd yn ystod ei gyfnod cyntaf gyda'r clwb (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Yno, fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa, gan chwarae dros y clwb o ogledd Llundain mewn 11 tymor.

Er iddo ddioddef sawl anaf dros y cyfnod, fe wnaeth 364 o ymddangosiadau dros y Gunners dan arweiniad y rheolwr Arsene Wenger yn bennaf, gan sgorio 64 o goliau.

Yn ystod y cyfnod, fe enillodd Cwpan FA Lloegr dair gwaith rhwng 2014 a 2017, a Tharian y Gymuned Lloegr yn 2014 a 2015.

Crys coch Cymru

Mae’n deg dweud mai yng nghrys coch Cymru ddaeth lawer o atgofion melysaf yrfa’r gŵr o Gaerffili.

Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad yn 2008, yn 17 oed, oddi cartref yn erbyn Denmarc. Fe sgoriodd ei gôl ryngwladol gyntaf yn erbyn Liechtenstein yn 2009, wrth i’w ddylanwad dros y tîm dyfu dan John Toshack.

Yn 2011, fe wnaeth Gary Speed ei benodi’n gapten ar y tîm. Yn 20 oed, Ramsey oedd capten ieuengaf erioed ar Gymru.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, bu farw Speed yn sydyn, gan gael effaith sylweddol ar Gymru gyfan, a Ramsey yn enwedig.

Cafodd ei ddewis dros dîm Prydain Fawr ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2012, gan chwarae mewn pum gêm.

Wedi penodiad Chris Coleman yn rheolwr Cymru, fe wnaeth Ramsey gamu yn ôl fel capten, gydag Ashley Williams yn cymryd y cyfrifoldeb.

Gyda Gareth Bale yn ysbrydoliaeth, fe wnaeth Ramsey ffynnu yn rhan o gnewyllyn creadigol y tîm.

Gyda hyder y tîm yn tyfu a pherfformiadau yn gwella, fe lwyddodd y Cymry i greu hanes yn 2015 wrth gymhwyso ar gyfer pencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc – y tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw gystadleuaeth ers 1958.

Bydd 2016 yn flwyddyn fythgofiadwy yn atgofion cefnogwyr a chwaraewyr Cymru, wrth iddyn nhw wireddu eu potensial gyda rai o berfformiadau gorau yn hanes y tîm cenedlaethol.

Image
Aaron Ramsey
Aaron Ramsey yn dathlu ar ôl rhwydo yn erbyn Rwsia yn Euro 2016 (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Enillodd y tîm o 2-1 yn eu gêm agoriadol yn erbyn Slofacia yn Bordeaux, cyn colli yn erbyn Lloegr yn eiliadau olaf eu hail gêm. Gyda lle yn yr 16 olaf yn y fantol, roedd Ramsey yn feistrolgar, wrth i Gymru ysgubo Rwsia o’r neilltu, wrth ennill 3-0 .

Llwyddodd y Gymru i drechu Gogledd Iwerddon yn yr 16 olaf, cyn cipio buddugoliaeth 3-1 fythgofiadwy dros Wlad Belg yn y chwarteri. 

Cafodd Ramsey gerdyn melyn yn y gêm honno, gan olygu ei fod wedi ei wahardd ar gyfer y rownd gyn-derfynol. Hebddo, fe ddaeth taith lewyrchus Cymru i ben wrth iddyn nhw golli 2-0 yn erbyn Portiwgal, un gam yn brin o’r rownd derfynol.

Er y siom, cafodd Ramsey ei enwi yn nhîm y gystadleuaeth, wrth iddo sicrhau ei le ymhlith chwaraewyr canol cae gorau yn hanes y tîm.

Y llwyddiant yn parhau

Ar ôl Euro 2016, fe wnaeth Cymru golli allan ar Gwpan y Byd 2018, ond fe lwyddon nhw i gyrraedd Euro 2020.

Yn anterth y pandemig Covid-19, fe gafodd y gystadleuaeth ei wasgaru ar draws Ewrop.

Cafodd y Cymry, dan Rob Page, gêm gyfartal gyda’r Swistir, cyn i Ramsey sgorio mewn buddugoliaeth 2-0 gofiadwy dros Dwrci. 

Er colli 1-0 yn erbyn yr Eidal yn eu gêm olaf, fe wnaeth y cochion gyrraedd yr 16 olaf unwaith eto. Ond yn Amsterdam, fe ddaeth y freuddwyd i ben gyda cholled drom 4-0 yn erbyn Denmarc.

Roedd amser i’r tîm greu hanes unwaith eto yn 2022, wrth gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, ar ôl curo Wcráin yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Image
Rambo
Roedd perthynas Ramsey a Gareth Bale yn allweddol i lwyddiant Cymru dros y ddegawd ddiwethaf (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Fe chwaraeodd Ramsey yn y tair gêm yn y grŵp, ond roedd hi’n gystadleuaeth siomedig, wrth i’r tîm gael gêm gyfartal gyda’r Unol Daleithiau, cyn colli’n drwm yn erbyn Iran a Lloegr.

Yn 2023, cafodd Ramsey ei benodi’n gapten ar Gymru unwaith eto, ond roedd anafiadau yn cyfyngu’n fawr ar ei bresenoldeb yn ei flynyddoedd olaf yn y crys coch.

Dros 16 mlynedd fel chwaraewr i Gymru, fe sgoriodd 21 gôl mewn 86 o ymddangosiadau yn ystod y cyfnod mwyaf llewyrchus yn hanes y wlad.

Antur yr Eidal

Ar ôl gadael Arsenal yn 2019, yr Eidal oedd yn galw nesaf i’r Cymro Cymraeg, wrth iddo arwyddo dros gewri Turin, Juventus.

Parhau gwnaeth anlwc Ramsey gyda’i anafiadau, ac er iddo chwarae 70 o weithiau dros y Bianconeri dros dri thymor, y gwirionedd yw ei fod wedi bod yn gyfnod rhwystredig i’r meistr canol cae.

Cafodd gyfnod ar fenthyg gyda Rangers yn yr Alban yn nhymor 2021/22, cyn treulio tymor yn Ffrainc gyda Nice yn 2022/23.

Ar ôl gadael Ligue Un, fe ddaeth yn ôl adref gan arwyddo dros ei gyn-glwb, Caerdydd, yn 2023, oedd yn chwarae yn y Bencampwriaeth.

Image
Ramsey
Cafodd Ramsey ei benodi'r reolwr dros dro ar Gaerdydd yn 2025 (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Er iddo ddangos ei wir urddas gyda’r bêl yn ystod cyfnodau, roedd yr anafiadau yn parhau i’w ddal yn ôl, ac mewn dau dymor, fe lwyddodd i chwarae 23 o gemau yn unig. 

Cafodd ei benodi’n rheolwr ar y clwb am gyfnod ar ddiwedd tymor 2024/25 ond ni oedd yn gallu atal y clwb rhag disgyn i Adran Un.

Roedd un antur ar ôl iddo'r tymor hwn, pan arwyddodd dros glwb Pumas UNAM ym Mecsico. Fe sgoriodd yn ei ail gêm dros y clwb, cyn iddo ddioddef anaf unwaith eto. 

Fe wnaeth ei deulu brofi cyfnod heriol oddi ar y cae yn ogystal, wedi iddyn nhw golli eu ci, Halo. Cafodd hyn effaith sylweddol ar Ramsey, ac yn Hydref 2025, fe ddaeth i’r penderfyniad ar y cyd gyda’r clwb i ddod â’i gytundeb i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.