Disgwyl i Reform gyhoeddi eu harweinydd newydd yng Nghymru
Mae disgwyl i grŵp Reform yn y Senedd gyhoeddi eu harweinydd newydd yng Nghymru ddydd Llun.
Daw wedi i Dan Thomas gamu i lawr fel arweinydd y blaid yng Nghymru ar 15 Medi ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd rheolaethol neu orfodol.
Dywedodd un o aelodau’r blaid yn Senedd Cymru, Cai Parry-Jones, y byddai’n cwrdd â’i gyd-aelodau fore Llun er mwyn dewis arweinydd newydd.
“Yn fyr, fore Llun bydd ein holl Aelodau o’r Senedd – pob un o’r 33 ohonynt – yn pleidleisio ar bwy maen nhw’n credu ddylai fod yn arweinydd, yn barod ar gyfer y cyfarfod llawn ddydd Mawrth,” meddai.
“Dim drama, dim cystadleuaeth arweinyddiaeth hirfaith; dim ond gwneud y gwaith yn gyflym ac yn ddemocrataidd.”
Mae ffynonellau o fewn y blaid wedi awgrymu mai’r dirprwy arweinydd presennol, Helen Jenner, yw’r ffefryn ar gyfer y swydd.
Fe fyddai hynny’n golygu y byddai’r blaid lywodraethol, Plaid Cymru, a’r brif wrthblaid, Reform, yn cael eu harwain gan aelodau sy’n cynrychioli’r un etholaeth, sef Bangor Conwy Môn.
James Evans, yr Aelod o’r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, oedd y ceffyl blaen i arwain grŵp Reform yn y Senedd. Ond dywedodd ddydd Mercher nad oedd eisiau’r swydd.
“Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, ac er fy mod wedi cael cefnogaeth ac anogaeth nifer sylweddol o Aelodau’r Senedd, rydw i wedi penderfynu na fyddaf yn rhoi fy enw ymlaen i fod yn arweinydd grŵp Reform UK yng Nghymru,” meddai.
Mae Dan Thomas wedi’i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach barhau, meddai’r heddlu.
Dywedodd Reform nad oedd wedi’i atal dros dro o’r grŵp.