'Disgwyl yr annisgwyl': Pwyso a mesur y cytundeb bregus rhwng America ac Iran
“Mae’n flin gyda fi ddweud bod eich hediad wedi ei ohirio rhyw ychydig…”
Roedd geiriau nesaf y peilot ddydd Llun yn annisgwyl.
Ond gyda Donald Trump yn arlywydd America, mae disgwyl yr annisgwyl wedi dod yn rhan o fywyd gwaith newyddiadurwyr wrth adrodd ar ddatblygiadau rhyngwladol.
“Bydd maes awyr Genefa wedi ei gau am gyfnod gan fod dyn arbennig iawn o America yn glanio yno. Byddwn yn gadael cyn gynted a bo modd.”
Nid dyma fyddai’r datblygiad annisgwyl diwethaf yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf o ohebu ar gynhadledd yr G7 yn Evian-les-bains, a chytundeb America ac Iran i geisio dod â diwedd ar bron i bedwar mis o ryfel yn y Dwyrain Canol.
Ddydd Gwener yn ôl y sôn oedd yr arwyddo ffurfiol i fod i ddigwydd.
Yn Genefa i ddechrau, cyn newid y lleoliad i westy moethus Burgenstock bnawn Mawrth.
Cyn i Donald Trump a Masoud Pezeshkian o Iran arwyddo cytundeb heddwch cychwynnol nos Fercher.
Fe wnaeth geiriau arlywydd America godi aeliau sawl gwaith yr wythnos yma.
Ry’n ni wedi arfer â’i areithiau hirwyntog, di-gyfeiriad, ond roedd ei feirniadaeth lem o Israel a Netanyahu, ei awgrym y gallai Syria nid Israel, oresgyn Hezbollah yn Libanus, a’i awgrym y byddai e’n bomio Iran i ebargofiant petae nhw ddim yn glynu at y cytundeb oll yn peri rhywfaint o syndod.
Efallai mai’r syndod mwyaf, fodd bynnag, yw rhai o delerau’r cytundeb ei hun.
O fewn yr 14 pwynt, mae Iran yn cytuno i beidio datblygu arfau niwclear. Mae ymrwymiad hefyd i ailagor culfor Hormuz -y darn o fôr hollbwysig wrth gludo olew yn rhyngwladol y mae Iran wedi llwyddo i’w gau dros y misoedd diwethaf gan greu hafoc mewn economïau rhyngwladol.
Dyna’r pwyntiau mae Donald Trump yn eu cyfri’n fuddugoliaethau wrth anelu i ddod â’r rhyfel, ddechreuodd ar 28 Chwefror eleni, i ben.
Ond mae yna gonsesiynau mawr mae’n ymddangos i’r Iraniaid.
Bydd o leiaf $300 biliwn yn cael ei gynnig gan America a’i “phartneriaid yn y rhanbarth” i ailadeiladu economi Iran, bydd asedau Iranaidd sydd wedi eu rhewi yn cael eu rhyddhau, a bydd sancsiynau ar Iran yn cael eu codi.
Hyn i gyd gydag addewid y bydd yr ymladd yn dod i ben “ar bob ffrynt, gan gynnwys yn Libanus”. Yn Libanus fore dydd Iau, mae adroddiadau unwaith eto bod Israel yn ymosod.
Yn nyddiau cynnar y rhyfel, fe ddywedodd pwysigion y Tŷ Gwyn ar wahanol adegau mai eu hamcanion oedd dymchwel y gyfundrefn yn Iran, difa gallu niwclear y wlad a dileu ei gallu i danio taflegrau balistig.
Mae’n parhau i allu tanio taflegrau, er yr ymrwymiad nawr i beidio datblygu arfau niwclear, mae’n debyg bod eu gallu niwclear yn parhau.
Ac er bod sawl wyneb amlwg yn y gyfundrefn Iranaidd oedd mewn grym cyn 28 Chwefror wedi eu lladd, mae sawl un arall yno o hyd. A chofiwch mai mab y cyn-Ayatollah Ali Khamenei, sydd wedi ei olynu fel gorucharweinydd.
Mynnu mae Donald Trump fod yr arweinyddiaeth wedi newid yn llwyr. Yn ôl y rheiny mae Newyddion S4C wedi siarad gyda nhw dros y diwrnodau diwethaf sydd â theulu yn Iran, does fawr ddim wedi newid yno i bobl gyffredin.
Mae 60 diwrnod pellach wedi eu clustnodi i gytuno ar fanylion pellach, a Donald Trunp ddydd Mercher yn awgrymu y gallai gymryd yn hirach eto.
A fydd y cytundeb yma’n un hirhoedlog? Beth fydd ymateb Israel ac Hezbollah? Ydy America ac Iran wir mewn sefyllfa i ymddiried yn ei gilydd?
Efallai mai’r peth doethaf fyddai bod yn barod i ddisgwyl yr annisgwyl.