Mae pobol wedi cael “sioc” ar ôl derbyn dirwyon “gwarthus” o £100 am ddefnyddio loceri parseli mewn maes parcio tafarn yng Nghaerdydd.
Cafodd rhai pobol yn y brifddinas y dirwyon ar ôl parcio tu allan i'r Church Inn yn Llanisien am “ddwy neu dair munud”.
Maen nhw’n dadlau bod diffyg arwyddion clir ac y dylai pobl gael yr hawl i stopio yno am gyfnod byr heb fod angen talu.
Yn ôl New Generation Parking, cwmni allanol sy’n rhedeg y maes parcio, dydi dirwyon ddim yn cael eu rhoi yn annheg na heb reswm.
Cafodd Sion Davies, sy’n byw yn yr ardal, ddirwy ar ôl defnyddio’r loceri.
“Fe wnes i yrru ger bwys y loceri..oni ddwy funud a hanner a nes i gael notice drwy’r post wedyn am £100. Ro’n ni’n eitha’ surprised,” meddai.
Image
Sion Davies
Fe apeliodd y penderfyniad gan ddadlau nad yw’n glir i ddefnyddwyr y loceri sut i ddefnyddio’r maes parcio.
Mae’n bosib i ddirwy gael ei lleihau os yw’n cael ei thalu o fewn 14 diwrnod.
Mae’r loceri bellach wedi cael eu troi ffwrdd ac am gael eu symud o’r safle dros yr wythnosau nesaf.
“Mae’n sioc i bobol,” meddai Cynghorydd Llanisien Bethan Proctor.
“Mae’n teimlo’n annheg ac yn afresymol achos mae pobol yn defnyddio gwasanaeth sydd yn y maes parcio," meddai.
Ychwanegodd bod enghraifft o berson wedi cael tair dirwy gwerth bron i £200.
Dywedodd bod tua 20 o bobol wedi derbyn dirwy, “ond wrth gwrs bydd mwy o bobol sydd heb gysylltu â ni ac sydd heb ddod o hyd i’r ymgyrch.”
Image
Cynghorydd Llanisien Bethan Proctor.
Dywedodd Dafydd Trystan, A.S Plaid Cymru dros Gaerdydd Ffynnon Taf: "Mae'n warthus bod trigolion lleol yn wynebu dirwyon am ddefnyddio amwynderau lleol hanfodol fel hyn. Dylai trigolion Llanisien allu cael mynediad i'r loceri heb ofni dirwyon trwm.”
Ychwanegodd y bydd yn ysgrifennu at y cwmni i geisio sicrhau y bydd y problemau sy’n wynebu ei etholwyr yn cael eu datrys.
Mae’r Parchedig Gareth Rayner-Williams, sydd hefyd wedi derbyn dirwy, wedi bod yn trafod y sefyllfa ar ran pobol leol.
“Ymysg yr enghreifftiau mwyaf trawiadol oedd dau ddefnyddiwr locer a gafodd ddirwyon o £60 ar ôl bod ar y safle am ddwy funud pum eiliad a thair munud a saith eiliad.
“Mae'n anodd gweld sut y gall unrhyw un ystyried y cyfnodau byr yma fel parcio – dydyn nhw ddim yn achosion unigryw," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran tafarn y Church Inn: “Mae maes parcio'r Church Inn yn cael ei reoli gan weithredwr parcio annibynnol gyda thelerau ac amodau parcio yn cael eu harddangos drwy’r safle, gan gynnwys y gofyniad i gerbydau barcio mewn mannau penodol.”
Ychwanegodd nad yw’r tafarnwr yn “elwa’n ariannol” o’r dirwyon parcio.
Image
Maes parcio tafarn y Church Inn yn Llanisien
Yn ôl llefarydd ar ran New Generation Parking: “Dydyn ni ddim yn derbyn yr awgrym fod dirwyon parcio yn cael eu rhoi yn annheg neu heb reswm.
“Mae rhybudd talu cosb yn cael ei roi pan nad yw rhywun yn cydymffurfio gyda’r telerau ac amodau parcio sy’n cael eu harddangos, gyda phob rhybudd yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth a ddaw o’r system rheoli parcio.”
Ychwanegodd bod yr arwyddion ar y safle wedi cael eu “gwirio yn annibynnol” er mwyn “cyfathrebu’n glir” yr amodau a thelerau parcio a bod 10 munud i benderfynu cydymffurfio â rheiny.
“Ry’n ni’n ymwybodol o’r sylwadau ar wefannau cymdeithasol ynglŷn â’r safle yma,” meddai.
“Tra ein bod yn cydnabod bod rhai unigolion yn anfodlon ar ôl derbyn y rhybudd parcio, dydyn ni ddim yn teimlo fod hynny yn adlewyrchiad o brofiad y mwyafrif.”