Dirwy i ddyn am fandaleiddio tri cherbyd heddlu

Llun o gar heddlu.

Mae dyn o Sir Fynwy wedi derbyn dirwy o dros £2,000 ar ôl iddo ddringo ar fonedi dau gar heddlu a sathru ar eu ffenestri blaen.

Yna taflodd Kyle Jones, sydd bellach yn 40 oed, fricsen at ffenestr flaen fan heddlu cyn ei chodi eto a’i thaflu drwy ffenestr ochr y teithiwr.

Achosodd Jones ddifrod gwerth bron i £2,000 i’r cerbydau oedd wedi’u parcio ym mis Gorffennaf 2025, tra yr oedd swyddogion y tu mewn i’w gartref yng Ngwndy yn ymateb i adroddiad.

Fe ddigwyddodd y cwbl mewn 23 eiliad.

Plediodd Jones, o Rockfield View, Gwndy, Sir Fynwy, yn euog i bedwar cyhuddiad o ddifrod troseddol pan ymddangosodd yn Llys Ynadon Casnewydd i gael ei ddedfrydu ddydd Gwener.

Dywedodd PC Declan Beale, o dîm cymdogaeth Sir Fynwy Heddlu Gwent, bod y difrod wedi “cael effaith enfawr ar Heddlu Gwent a’n cymunedau”.

“Cafodd y fandaliaeth ddisynnwyr gan Jones ei ffilmio ar deledu cylch cyfyng, ac roedd yn golygu nad oedd modd defnyddio tri o’n cerbydau,” meddai.

“Roedd ein gallu i ymateb i alwadau brys yn Sir Fynwy ac ardaloedd cyfagos o fewn ardal yr heddlu wedi lleihau nes bod y cerbydau hyn yn cael eu hystyried yn ddiogel i’n swyddogion eu defnyddio eto.

“Ar wahân i’r effaith ar ein gallu i ymateb i droseddau, roedd yn rhaid atgyweirio’r cerbydau hyn ac, am eu bod yn adnodd cyhoeddus, y trethdalwr oedd yn gorfod helpu i dalu’r costau atgyweirio.”

Gorchmynnwyd i Jones dalu cyfanswm o £2,330.71 am ei droseddau, gan gynnwys £1,965.71 mewn iawndal am ddifrod troseddol, dirwy o £200 a £85 o gostau llys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.