'Diolchgar': Gêm bêl-droed i gefnogi mam o Landudno gyda chanser yn codi dros £6,000
'Diolchgar': Gêm bêl-droed i gefnogi mam o Landudno gyda chanser yn codi dros £6,000
Mae mam ac athrawes o Landudno a gafodd ddiagnosis canser y fron yn dweud ei bod yn “ddiolchgar” i gannoedd o bobl a ddaeth i gefnogi gêm bêl-droed er budd elusennau canser y gogledd.
Roedd dros 500 o bobl yn bresennol mewn diwrnod o hwyl i’r teulu a gêm bêl-droed elusennol ddydd Sul, gafodd eu trefnu i godi arian i Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd a Chanolfan Maggie’s yn Ysbyty Glan Clwyd
Mae Lisa Eardley, 37 oed, wedi bod yn cael triniaeth yn Ward Alaw a Chanolfan Maggie’s dros y misoedd diwethaf ar ôl derbyn diagnosis o ganser y fron gradd tri fis Awst y llynedd.
Wrth siarad â Newyddion S4C fis diwethaf, dywedodd Lisa, sydd yn fam i un a dirprwy bennaeth yn Ysgol Deganwy, bod y diagnosis wedi bod yn “sioc fawr” i hithau a’i gŵr, Sean.
Er mwyn codi arian i’r ddwy elusen sydd wedi rhoi gofal a thriniaeth “anhygoel” i Lisa, cafodd y gêm bêl-droed arbennig a diwrnod o hwyl i’r teulu eu cynnal yn Stadiwm GoGoodwins, Llandudno.
Mae trefnwyr y digwyddiad wedi dweud ei fod yn “llwyddiant mawr”, gyda dros £6,000 yn cael ei godi ar gyfer yr elusennau.
Dywedodd Lisa Eardley: “Wnaeth un o ffrindiau fi ddweud, mae pawb unai wedi bod trwy cancr nhw eu hunain, neu’n nabod rhywun yn eu teulu, neu rywun yn bell sydd wedi bod trwyddo fo.
“A dwi'n meddwl bod o'n taro calonnau llawer o bobl am yr elusennau da ni’n codi arian tuag atyn nhw, mae hwn yn mynd i feddwl rhywbeth iddyn nhw i gyd. Mae’n deimlad rili neis ond hefyd bod ni'n gallu gwneud rhywbeth pwrpasol i'r gymuned.”
Trefnydd y digwyddiad oedd Mike Pearson, chwaraewr pêl-droed ac un o ffrindiau gorau Sean, sydd yn is-reolwr ar CPD Bangor 1876 a chyn reolwr ar dimau Llandudno a Chaernarfon.
Defnyddiodd Mike ei gysylltiadau i drefnu gêm rhwng tîm XI Sean Eardley, yn cynnwys chwaraewyr y mae wedi’u rheoli dros y blynyddoedd, a thîm XI Oldham Athletic – ble roedd Sean a Mike yn chwarae gyda’i gilydd fel chwaraewyr ifanc.
Dywedodd Mike Pearson: "Mae codi £6,000 yn anhygoel. Roedd cymaint o wynebau yno o'r gymuned bêl-droed, o gefnogwyr sy'n gwylio gemau o un maes i'r llall, i bobl y mae Sean a minnau wedi gweithio gyda nhw ym myd pêl-droed dros y gorffennol.
"Mae'n wych gallu dod â phawb at ei gilydd ar gyfer achos mor dda ac roedd yn ddiwrnod yn ffantastic. Roedd pawb yn gwenu’n hapus, yn wirioneddol bositif ac yn bwysicach oll, yn barod iawn i roi eu dwylo yn eu pocedi.
"Y gobaith nawr yw y gall yr arian fynd i wneud rhywfaint o ddaioni, a helpu pobl eraill sy'n dioddef o ganser ac yn cael y driniaeth."
Ymhlith y chwaraewyr ar y maes oedd cyn-amddiffynnwr Cymru a brawd Sean, Neal Eardley, yn ogystal â chyn-chwaraewyr Caernarfon Marc Williams, Gareth Edwards, a chyn chwaraewr Wrecsam, Neil Ashton.
Roedd gan Sean gwmni da ar y fainc yn ogystal, gyda rheolwr Caernarfon, Richard Davies a chyn-reolwr Llandudno, Alan Morgan, yn cynnig help llaw.
Ac ar ddiwedd gêm gystadleuol yng ngwres Llandudno, fe enillodd XI Sean Eardley o gôl i ddim.
Dywedodd Richard Davies, oedd yn is-reolwr o dan Sean Eardley gyda Chaernarfon am rai blynyddoedd, cyn cael ei benodi’n rheolwr: “ Gathon ni flynyddoedd ffantastig efo Sean yn rheolwr i ni.
“Da ni’n meddwl gymaint o Lisa a Sean a hogyn bach nhw, Iori, so da ni just di dod yma a trio rhoi gymaint o gefnogaeth a da ni'n gallu trwy greu gymaint o bres a da ni'n gallu i'r diwrnod.
“Nath Sean jyst deud yn y dressing room cyn y gêm pa mor ddiolchgar ydi o i bawb sydd wedi dod yma a dangos bod y gymuned bêl-droed yn un sydd yn gallu bod yn dda iawn ac yn support massive iddo fo - mae o bron iawn fath â teulu.”
Ychwanegodd Lisa Eardley: “Mae o wedi bod yn amazing gweld pawb wedi dod o bob ochr gogledd Cymru, 'dw i wedi gweld lot o hen blant 'dw i wedi addysgu yn y gorffennol, i deuluoedd a chwaraewyr 'dw i heb gweld ers blynyddoedd.
“Mae'n teimlo'n rili cynnes a dwi’n ddiolchgar i bawb sydd wedi troi fyny.”
