Nid yw prisiau’r tocynnau wedi cael eu cadarnhau eto, ond byddan nhw’n cael eu cyhoeddi pan fydd y system archebu’n mynd yn fyw.
Dim modd defnyddio cardiau teithio rhatach ar wasanaeth newydd bysiau TaithCymru
Ni fydd modd i deithwyr ddefnyddio eu cardiau teithio ar TaithCymru, y gwasanaeth bws newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin.
Ym mis Awst eleni fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai'r gwasanaeth bws pellter hir yn dechrau gweithredu o ddydd Sul 25 Hydref.
Mae’r gwasanaeth yn un o ymrwymiadau 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Cymru ac yn rhan o’u bwriad i greu "rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy cydgysylltiedig."
Bydd TaithCymru, enw swyddogol y gwasanaeth newydd, yn cymryd rhwng pedair awr a thri chwarter a phump awr i gyrraedd pen y daith, gan alw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Iau, fe gyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru eu bod wedi penodi cwmni Edwards Coaches mewn partneriaeth â Llew Jones Coaches i weithredu'r gwasanaeth newydd.
Mae wyth o fysiau newydd wedi cael eu prynu er mwyn rhedeg y gwasanaeth.
Er gwaethaf y croeso y mae cyhoeddi'r gwasanaeth hwn wedi'i gael ymysg teithwyr, mae rhai'n pryderu na fydd modd iddyn nhw ddefnyddio eu cardiau teithio.
Mae modd i rai teithwyr deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yng Nghymru, neu gael teithio am bris gostyngol ar lawer o wasanaethau trenau.
Mae modd manteisio ar hyn os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru, ac eich bod naill a'n 60 oed neu'n hŷn, yn anabl neu'n aelod wedi'i anafu o'r lluoedd arfog.
Gall teithiau fod yn rhatach ar fysiau i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed, sy'n byw yng Nghymru, sydd gan amlaf yn ostyngiad o un rhan o dair o'r pris.
Ddim 'yn wasanaeth bws lleol'