'Dim cynlluniau' i leihau presenoldeb y BBC ym Mangor medd pennaeth dros dro BBC Cymru
Mae Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru wedi mynnu nad oes unrhyw gynlluniau i leihau presenoldeb y BBC ym Mangor, gan ddweud bod y ganolfan yn parhau'n "ganolog" i waith y gorfforaeth yng Nghymru.
Roedd Garmon Rhys yn ateb cwestiynau aelodau o Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon y Senedd ddydd Llun, ynghyd â Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Matt Brittin, a chyfarwyddwr Anweithredol y BBC, Michael Plaut.
Yn ddiweddar, fe wnaeth BBC Cymru gyhoeddi cynlluniau i dorri 58 o swyddi, lleihau 20 awr o raglenni teledu yng Nghymru a chanslo nifer o raglenni radio, gan gynnwys Dros Ginio - un o'i phrif raglenni newyddion a materion cyfoes dyddiol.
Mae'r cynlluniau yng Nghymru yn rhan o raglen ehangach o arbedion gwerth £500m gan y BBC erbyn 2028-29.
Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor, Mair Rowlands AS, am effaith y newidiadau ar ganolfan y BBC ym Mryn Meirion, Bangor, gan dynnu sylw at ei rôl yn darlledu gwasanaethau Radio Cymru ac yn cynrychioli gogledd-orllewin Cymru.
"Fel aelod o'r gogledd, dwi wedi datgan pryder am yr effaith ar BBC Bangor," meddai.
"Mae lot o wasanaethau Radio Cymru yn cael eu darlledu o BBC Bangor hefyd, a chyn gwneud y penderfyniad i leihau capasiti a newid statws canolfan BBC Bangor, wnaethoch chi wneud asesiad o'r effaith ar gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith a hefyd cynrychiolaeth yna o ogledd-orllewin Cymru?
"A pha sicrwydd allwch chi ei roi heddiw nad dyma ddechrau mudiad graddol o rôl Bangor fel un o brif ganolfannau darlledu Cymraeg y BBC ers dros 90 mlynedd erbyn hyn?"
Wrth ymateb, dywedodd Garmon Rhys: "Does 'na ddim newid i statws y ganolfan.
"Mae'n ganolog i waith BBC Cymru ac yn arbennig felly yn yr iaith Gymraeg.
"Mae 'na hanes hir a chyfoethog i'n presenoldeb ni ym Mangor, ac does dim cynlluniau gynnon ni i dynnu'n ôl o'n presenoldeb ni yno.
"Mae bron i hanner gwasanaeth Radio Cymru yn dod o Fangor."
Ychwanegodd: "Ond eto mae'n deillio o'r her ariannol a'r ffaith bod rhaid i ni gymryd penderfyniadau anodd.
"Ac mae natur y ffordd 'da ni'n gweithio, mae'r timau weithiau'n gweithio ar draws canolfannau Caerdydd a Bangor, felly fyddai ddim yn bosib i ni, unwaith eto, ddweud bo' ni am dynnu staff Bangor allan o unrhyw broses diswyddo gwirfoddol.
"Fyddai hynny ddim yn ymarferol bosib.
"Ac hyd yn oed petai ni'n ceisio gwneud hynny, y risg fyddai cynyddu'r diswyddiadau gwirfoddol mewn rhannau eraill o Gymru."
Ym mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth y BBC ddathlu 90 mlynedd o ddarlledu o Fangor.
Un o ddatblygiadau mwyaf y BBC yng Nghymru oedd sefydlu gwasanaeth Radio Cymru yn 1977.
Ers hynny, mae tua hanner y rhaglenni wedi eu cynhyrchu a'u darlledu o Fangor.