‘Dim byd i chwerthin amdano’: Cipio 'swm sylweddol' o ocsid nitraidd oddi ar strydoedd Bangor

Nwy chwerthin

Mae’r heddlu wedi cipio swm sylweddol o ocsid nitraidd (neu ‘laughing gas’) oddi ar strydoedd Bangor gan ddweud nad yw’n “ddim byd i chwerthin amdano”.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i’r nwy ar ôl i ddau ddyn gael eu gweld yn ymddwyn yn amheus yn y ddinas yng Ngwynedd, a’u bod nhw wedi eu harestio.

Fe ddaeth swyddogion o hyd i’r ocsid nitraidd mewn storfa, ynghyd ag arian parod.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu’r Gogledd: “Newyddion da – mae llawer iawn o ocsid nitraidd wedi cael ei gipio oddi ar strydoedd Bangor.

“Neithiwr, roedd swyddogion allan ar batrôl arferol pan dynnwyd eu sylw at ddau ddyn oedd yn ymddwyn yn amheus.

“Fe weithredodd y swyddogion yn gyflym er mwyn arestio dau ddyn, 17 ac 20 oed, ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau a byrgleriaeth.

“Aeth ymholiadau pellach â swyddogion at storfa diogel lle cafwyd hyd i lawer iawn o ocsid nitraidd (nwy chwerthin) a swm o arian parod.

“Mae swm sylweddol o ocsid nitraidd wedi cael ei dynnu oddi ar strydoedd Bangor — ac nid yw’n ddim byd i chwerthin amdano!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.