Y digrifwr Hardeep Singh Kohli i wynebu achos llys am dreisio

S4C

Fe fydd y digrifwr Hardeep Singh Kohli yn wynebu achos llys y flwyddyn nesaf ar gyhuddiadau o dreisio a throseddau rhyw eraill.

Mae'r digrifwr yn wynebu 20 cyhuddiad yn ymwneud â phump o fenywod rhwng 2006 a 2022 mewn lleoliadau sydd yn cynnwys stiwdios y BBC yn Pacific Quay, Glasgow, a gwesty'r Radisson yn y ddinas.

Mae'r dyn 57 oed yn wynebu pum cyhuddiad o dreisio yn ymwneud â'r un fenyw yn 2020 a 2021 yn ardal Glasgow.

Mae hefyd yn wynebu sawl cyhuddiad o ymosodiadau rhywiol honedig ac ymosodiadau anweddus honedig.

Mae'r cyhuddiadau eraill yn ei erbyn yn cynnwys cyfathrebu anweddus ac ymosod.

Mae'r digrifwr, a oedd yn gystadleuydd ar Celebrity Big Brother, wedi pledio'n ddieuog.

Amddiffyniad

Clywodd yr Uchel Lys yn Glasgow fod amddiffyniadau arbennig o gydsynio wedi'u cyflwyno ar gyfer rhai o'r cyhuddiadau.

Gosododd yr Arglwydd Rennucci ddyddiad yr achos llys ar gyfer 1 Hydref y flwyddyn nesaf yn ystod y gwrandawiad yn y llys ddydd Gwener.

Mae'r cyhuddiadau'n cynnwys honiad bod Kohli wedi ymosod yn anweddus ar fenyw yn stiwdios y BBC yn Pacific Quay, Glasgow, ar achlysur rhwng 2006 a 2008 pan honnir iddo gipio a gwasgu ei phen-ôl a rhoi ei freichiau o amgylch ei chorff.

Mae honiad hefyd ei fod wedi ymosod yn anweddus ar yr un fenyw yng Ngwesty'r Radisson a rhwbio ei chefn dro ar ôl tro, a chyffwrdd yn ei gwallt ar un achlysur yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae cyhuddiad arall yn honni iddo ymosod yn rhywiol ar fenyw arall yn Yes Bar, Glasgow, ym mis Rhagfyr 2016.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o ymddwyn mewn modd bygythiol neu gamdriniol trwy fynd ar ôl yr un fenyw dro ar ôl tro a gwneud sylwadau rhywiol tuag ati yn Yes Bar ar yr un diwrnod.

Fe ddigwyddodd y troseddau honedig mewn lleoliadau gan gynnwys Caeredin, Glasgow, gwesty yn Dumfries a Galloway a mannau eraill.

Mae Kohli wedi ymddangos ar raglenni teledu gan gynnwys The One Show, Celebrity MasterChef a Newsnight Review, ac mae wedi cyflwyno rhaglenni ar BBC Radio 4.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.