‘Cyfrifoldeb ar bawb’: Sbwriel yn broblem gynyddol ar draeth yn Aberystwyth
Mae dyn o Aberystwyth wedi mynegi pryder bod taflu sbwriel yn broblem gynyddol ar un o draethau’r dref, gan alw ar bobl i fod yn fwy cyfrifol.
Casglodd Jack Potts-Edwards a’i ffrind Dion bedwar bag o sbwriel o ran helaeth o Draeth y Gogledd nos Iau.
Roedd hi wedi 23:00 erbyn iddyn nhw orffen, wedi i ymwelwyr heidio i lan y môr ar y diwrnod poethaf yng Nghymru ym Mehefin ar gofnod.
Roedd y gwastraff yn cynnwys poteli plastig, caniau, gwydr wedi torri, dillad, esgidiau, cadeiriau haul ac offer nofio.
“Mae’n drist ac yn peri gofid,” meddai Mr Potts-Edwards wrth Newyddion S4C.
“Mae gennym ni ddyletswydd i ddiogelu ac edrych ar ôl yr amgylchedd.
“Dyw hi ddim yn anodd bod ychydig yn fwy cyfrifol a rhoi eich sbwriel mewn bin, neu os yw’r bin yn llawn, mynd ag ef adref gyda chi.”
Dywedodd Mr Potts-Edwards fod y broblem yn llawer gwaeth ar ddiwrnodau poeth, pan fydd mwy o bobl yn ymweld â’r traeth a’r promenâd.
Mae wedi codi pryderon am nifer y biniau yn yr ardal, diffyg camau gorfodi a gwylanod yn tynnu gwastraff o finiau llawn.
“Pan fyddwch chi’n cymysgu adar, biniau llawn, sbwriel a gwynt, mae gennych chi rysáit ar gyfer trychineb amgylcheddol,” meddai.
Dywedodd hefyd ei fod yn credu bod toriadau i staff ac adnoddau’r cyngor yn gwaethygu’r broblem, a bod rhai casgliadau gwastraff yn cael eu methu.
Ychwanegodd fod ceisio trafod y mater gyda’r cyngor weithiau’n teimlo fel “un cam ymlaen, pum cam yn ôl”.
‘Mwy o addysg’
Dywedodd Mr Potts-Edwards ei fod yn credu bod angen gwneud mwy i addysgu plant am effaith sbwriel a llygredd ar yr amgylchedd.
“Os nad ydyn ni’n dysgu’r genhedlaeth nesaf am y problemau hyn a sut y gallan nhw eu hatal, dydyn nhw ddim wedyn yn mynd i ddysgu eu plant nhw,” meddai.
Dechreuodd drefnu sesiynau casglu sbwriel cymunedol yn Aberystwyth ym mis Ebrill.
Mae ei fusnes chwaraeon dŵr, Aberoutdoors, bellach yn un o Hybiau Casglu Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus, lle gall unigolion a grwpiau cymunedol fenthyg offer am ddim.
Cyn i’r hyb agor ym mis Mehefin, casglodd myfyrwyr cyfnewid, cymdeithasau Prifysgol Aberystwyth a thrigolion lleol dros 50 o fagiau o sbwriel mewn cyfres o sesiynau glanhau.
“Efallai mai gwaith y cyngor yw e, ond mae’n gyfrifoldeb ar bawb,” meddai Mr Potts-Edwards.
“Os ydych chi’n cymryd 20 munud allan o’ch diwrnod, gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr.”
Bagiau coch
Dywedodd Cadwch Gymru’n Daclus fod y bagiau coch arbennig yn helpu awdurdodau lleol i adnabod gwastraff sydd wedi cael ei gasglu gan wirfoddolwyr.
Mae’r bagiau ar gael i wirfoddolwyr, gan gynnwys unigolion a grwpiau cymunedol, drwy tua 250 o Hybiau Casglu Sbwriel ledled Cymru.
Defnyddiwyd o leiaf 215,377 o’r bagiau dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys 60,563 y llynedd.
Cymerodd 52,774 o wirfoddolwyr ran mewn 17,714 o weithgareddau casglu sbwriel y llynedd, gan gyfrannu mwy na 94,000 o oriau.
Dywedodd yr elusen mai dyma’r ffigurau uchaf y mae wedi’u cofnodi mewn blwyddyn.
Ymateb y cyngor
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion nad oedd yn ymwybodol o unrhyw broblemau gyda chapasiti’r biniau ar y promenâd.
Mae biniau 1,100 litr ychwanegol yn cael eu darparu yn ystod yr haf, ac mae capasiti a nifer y casgliadau’n cynyddu yn ystod cyfnodau prysur, meddai.
Dywedodd y cyngor nad oedd unrhyw gasgliadau gwastraff wedi’u methu mewn ffordd a allai fod wedi cyfrannu at y broblem, a bod biniau sy’n gwrthsefyll gwylanod yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau allweddol.
Ychwanegodd mai unigolion sy’n dewis peidio â defnyddio’r biniau sydd ar fai am y sbwriel.
Diolchodd y cyngor i Mr Potts-Edwards a gwirfoddolwyr eraill am eu gwaith, gan annog ymwelwyr i ddefnyddio bin arall gerllaw neu fynd â’u sbwriel adref.