Arestio dyn lleol 50 oed ar amheuaeth o lofruddio ym Mrymbo ger Wrecsam
Mae Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 46 oed o Frymbo ger Wrecsam.
Aeth swyddogion i dŷ ym Mryn y Ffynnon ddydd Iau, 25 yn dilyn pryderon am les dyn oedd heb ei weld ers nifer o ddiwrnodiau.
Cafodd y dyn ei ddarganfod yn farw yn yr adeilad am tua 18:00.
Mae dyn lleol 50 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.
Mae’r crwner a theulu’r dyn sydd wedi marw wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney: “Rydym yn deall y gallai’r digwyddiad hwn achosi pryder yn y gymuned leol, a hoffwn sicrhau’r cyhoedd bod presenoldeb amlwg yr heddlu yn yr ardal.
“Fel rhan o’n hymholiadau, rydym yn apelio at unrhyw un a oedd yn ardal Bryn y Ffynnon fore Sul 21 Mehefin ac a allai fod wedi gweld neu glywed unrhyw beth anarferol i gysylltu gyda ni.
“Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod â lluniau teledu cylch cyfyng, lluniau cloch drws neu dash-cam o’r ardal ar y diwrnod hwnnw.
“Mae fy meddyliau’n parhau gyda theulu’r dyn yn ystod yr amser anodd hwn.”
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod O099798.
Llun: Google