Dewis arweinydd newydd ar Gyngor Caerdydd ar ôl i Huw Thomas ymddiswyddo
Bydd grŵp Llafur yn dewis arweinydd newydd ar Gyngor Caerdydd ddydd Llun ar ôl i Huw Thomas ymddiswyddo.
Cyhoeddodd Huw Thomas ei fod yn gadael ei swydd ddydd Sadwrn ar ôl iddo gael ei ethol yn AS Llafur dros Gaerdydd Penarth yn Senedd Cymru.
Yn dilyn ei ymddiswyddiad, bydd cynghorwyr Llafur Caerdydd yn cyfarfod nos Lun i ddewis arweinydd newydd ar y grŵp. Bydd yna enwebiad wedyn ar gyfer arweinydd cyngor y brifddinas.
Wrth gyhoeddi'r newyddion mewn fideo, dywedodd Mr Thomas - sydd wedi arwain y cyngor am naw mlynedd - fod y swydd wedi bod yn "anrhydedd ei fywyd".
"Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle olaf hwn i ddiolch i chi gyd am eich gwasanaeth a'ch cefnogaeth dros y degawd diwethaf," meddai.
"Mae wedi bod yn gyfnod anhygoel - rydym wedi gorfod delio gyda heriau cynildeb, Brexit, Covid, argyfwng costau byw.
"Rydym wedi gweld y galw am wasanaethau'r cyngor yn cynyddu ac yn dod yn fwy cymhleth.
"Ond rydym wedi bod yno bob amser, yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ar gyfer pobl Caerdydd.
"Ac er gwaethaf yr heriau hynny, rydym wedi gwneud pethau anhygoel gyda'n gilydd."
Inline Tweet: https://twitter.com/huwthomas_Wales/status/2053400242729427296?s=20
Fe aeth ymlaen i sôn am y "2,000 o dai cyngor rydym wedi'u darparu ers 2017" a'r "ffocws ar dwf economaidd sy'n tyfu economi'r ddinas".
Dywedodd fod y cyngor dan ei arweinyddiaeth hefyd wedi buddsoddi yn y seilwaith trafnidiaeth, gan gynnwys lonydd beicio newydd a gwelliannau'r i'r gwasanaeth fysiau, gyda thramiau cyntaf y brifddinas ers y 1960au ar y gweill.
"Mae wedi bod yn anrhydedd fy mywyd i fod yn arweinydd yr awdurdod hwn," ychwanegodd.
"Rwy'n edrych yn ôl gyda balchder aruthrol ar yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni."
Fe wnaeth Mr Thomas ennill y chweched sedd yn etholaeth Caerdydd Penarth yn yr Etholiad ddydd Gwener.
Ef oedd yr unig ymgeisydd Llafur i ennill sedd yn yr etholaeth.