Dedfryd o dros 10 mlynedd o garchar i Russell Brand

Russell Brand

Rhybudd - Gall manylion yn yr erthygl hon beri gofid i rai.

Mae’r digrifwr a'r actor Russell Brand wedi cael dedfryd o 10 mlynedd a chwe mis o garchar am dreisio dynes ac ymosod yn rhywiol ar dair menyw arall.

Ni ddangosodd Brand unrhyw emosiwn wrth iddo glywed ei ddedfryd, ond edrychodd ar ei wraig a dweud "Byddwn ni'n iawn" wrth iddo gael ei hebrwng o'r llys gan swyddogion.  

Bydd angen iddo dreulio o leiaf ddwy ran o dair o'i ddedfyd o dan glo, sy'n cyfateb i saith mlynedd.

Wrth gyflwyno ei ddedfryd, dywedodd y Barnwr Mr Ustus Bennathan fod Russell Brand wedi dangos "haerllugrwydd rhyfeddol," wrth gyflawni'r troseddau.   

Daeth y rheithgor yn Llys y Goron Southwark i’r casgliad ddydd Iau fod Brand, 51 oed, yn euog o dreisio menyw yn 2009, yn ogystal ag ymosod yn rhywiol ar fenywod oedd yn gweithio yn y byd teledu a radio rhwng 2004 a 2009.

Nododd y Barnwr hefyd fod gan fenywod "yr hawl i ddweud 'na' a mynnu cyfiawnder mewn llysoedd troseddol" yn erbyn troseddwyr rhyw fel Russell Brand.   

"Be' bynnag mae menywod yn ei wisgo, lle bynnag maen nhw'n mynd, be bynnag maen nhw'n ei yfed, mae ganddynt yr hawl i ddweud 'na' a mynnu cyfiawnder, pan fo troseddwyr rhyw fel chi, Mr Brand yn gweithredu heb eu caniatâd," meddai.     

Ychwanegodd y Barnwr: "Mae eich carcharu yn amddifadu eich plant o bresenoldeb eu tad, ond mae'r golled drist honno iddyn nhw, wedi ei achosi oherwydd ei troseddu difrifol chi."   

Roedd Brand wedi treulio'r pedair noson ddiwethaf yng Ngharchar HMP Wandsworth.

Cafodd ei gludo'n ôl i'r llys ddydd Llun i gael ei ddedfrydu gan y barnwr Mr Ustus Bennathan.

Wrth iddo fynd i mewn i'r doc, fe wnaeth Brand droi at ei wraig, Laura Gallacher, yn yr oriel gyhoeddus a dweud wrthi: "Bydd popeth yn iawn. Dydw i ddim yn gwybod sut, ond fe fydd."

Dywedodd Ms Gallacher "O Dduw" wrth weld Brand yn mynd i mewn i'r doc, cyn dweud wrtho: "Rwy'n dy garu di."

Cafodd y digrifwr hefyd ei weld yn dal croes, yn gwneud arwydd y groes â'i law ac yn dweud gweddi.

Image
Sketch o Russell Brand yn y llys
Braslun o Russell Brand yn y doc yn Llys y Goron Southwark, Llundain

Clywodd achos llys a barodd bedair wythnos sut roedd Brand wedi manteisio ar fenywod y daeth ar eu traws wrth iddo ddod yn un o ddigrifwyr mwyaf adnabyddus Prydain, yn gyflwynydd teledu a radio uchel ei barch, ac yn actor Hollywood a oedd yn briod â'r gantores Katy Perry.

Yn ystod yr achos, honnodd Brand mai dim ond rhyw cydsyniol a gafodd yn ystod ei fywyd.

Disgrifiodd ei fywyd rhywiol fel un "rhyddfrydol" a llawn "ffolineb", ond mynnodd nad oedd erioed wedi gwneud unrhyw beth anghyfreithlon.

Ond roedd gan ei ddioddefwyr stori wahanol i'w hadrodd. 

Image
Laura Gallacher yn cyrraed y llys
Gwraig Brand, Laura Gallacher (chwith), yn cyrraedd y llys fore Llun

Cafodd Brand ei ddisgrifio fel dyn enwog a phwerus a oedd yn cusanu ac yn cyffwrdd â menywod yn amhriodol o fewn eiliadau i'w cyfarfod. 

Clywodd yr achos ei fod yn mynd ati'n ddi-baid i gyflawni ei chwantau rhywiol ac yn chwerthin am ben menywod yn dilyn yr ymosodiadau.

Daeth ffrindiau a chyn-gydweithwyr Brand ymlaen hefyd i roi tystiolaeth.

Fe wnaethon nhw sôn am ei uchelgais i gael rhyw gyda 5,000 o fenywod, ei awydd rhywiol "gwallgof", a'r ffaith bod ei ymddygiad gwael tuag at fenywod wedi cael ei "normaleiddio" wrth iddo ddod yn fwyfwy enwog.

'Teimlo'n ddi-rym'

Ddydd Iau diwethaf, cafodd Brand ei ddyfarnu'n euog o un cyhuddiad o dreisio a thri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol rhwng 2004 a 2009.

Roedd Brand yn wynebu cyfanswm o saith cyhuddiad: tri o dreisio, tri o ymosod yn rhywiol ac un o geisio cyflawni ymosodiad anweddus.

Daeth y rheithgor i'r casgliad ei fod yn ddieuog o ddau gyhuddiad o dreisio ac un cyhuddiad o geisio cyflawni ymosodiad anweddus.

Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu ddydd Llun, clywodd Llys y Goron Southwark ddatganiadau effaith dioddefwr.

Dywedodd gweithiwr Channel 4, a wnaeth ddioddef ymosodiad rhywiol gan Brand, fod ei phenaethiaid wedi ceisio cuddio'r digwyddiad, a'i bod yn dal i boeni am y canlyniadau posib o siarad yn agored amdano.

Cafodd y fenyw ei thargedu gan Brand yn ystod sesiwn recordio yn 2009, pan gafodd ei gorfodi gan dîm y digrifwr i roi massage iddo.

Pan gytunodd i barhau â'r sesiwn, penliniodd Brand a gwthio ei ben rhwng ei choesau.

Mewn datganiad effaith dioddefwr a gafodd ei ddarllen yn y llys ddydd Llun, dywedodd y fenyw ei bod wedi teimlo'n "ddi-rym".

Image
Swyddfa Channel 4
Dywedodd gweithiwr Channel 4, a wnaeth ddioddef ymosodiad rhywiol gan Brand, fod y darlledwr wedi ceisio cuddio'r digwyddiad

Wrth sôn am ei chwyn wrth Channel 4, dywedodd: "Yn syth ar ôl y digwyddiad, codais fy llais, ond yn anffodus, cafodd y mater ei guddio gan uwch reolwyr.

"Cafodd hyn effaith fawr arnaf. Pe bai rhywbeth tebyg wedi digwydd eto bryd hynny, dwi'n gwybod na fyddwn wedi cael yr hyder i godi fy llais yr eildro.

"Roedd y diwylliant ar y pryd yn gwneud i mi deimlo bod yn rhaid i mi fwrw ymlaen â phethau a pheidio â siarad am y digwyddiad ddim mwy.

"Roedd hynny'n golygu na wnes i roi amser i mi fy hun brosesu'r hyn a ddigwyddodd. Wnes i roi'r cyfan o'r neilltu a cheisio anghofio amdano."

Mae Channel 4 wedi cydnabod na chafodd cwyn y fenyw ei thrin yn briodol yn 2009, ac fe barhaodd Brand i ymddangos ar raglenni'r sianel tan 2019.

Ar ôl yr ymosodiad rhyw, dywedodd y fenyw ei bod wedi dod yn "wyliadwrus rhag i rywbeth tebyg ddigwydd eto".

Dywedodd wrth y llys: "Roeddwn yn teimlo fy mod wedi colli fy ymddiriedaeth mewn pobl ac nad oedd fy amgylchedd gwaith yn ddiogel.

"O hynny ymlaen, gwnes yn siŵr nad oeddwn yn eistedd ar fy mhen fy hun mewn ystafell."

Image
Brand yn gadael y carchar
Fan yn cludo Brand yn gadael Carchar HMP Wandsworth fore Llun

Ychwanegodd: "Roeddwn yn teimlo'n ddi-rym ar y pryd, ac effeithiodd hynny ar fy hyder wedyn. 

"Roeddwn wedi teimlo nad oedd gennyf unrhyw reolaeth y diwrnod hwnnw ac nad oedd unrhyw beth y gallwn ei wneud am yr hyn a wnaeth i mi."

'Teimlo fyddai neb yn fy nghredu'

Dywedodd y fenyw a gafodd ei threisio gan Brand yn 2009, ar ôl cyfarfod ag ef yn un o'i sioeau comedi yn yr Hammersmith Apollo, wrth y llys ei bod wedi cael trafferth gyda dibyniaeth ar alcohol a phroblemau iechyd meddwl yn y blynyddoedd ers hynny.

Dewisodd Brand y fenyw o blith y gynulleidfa i gael rhyw gydag ef ac un person arall y tu ôl i'r llwyfan. 

Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, aeth i'w dŷ yn Hampstead i gael rhyw gyda'r digrifwr.

Ond clywodd y llys fod yr ail gyfarfyddiad wedi troi'n dreisio pan wnaeth Brand ei gorfodi i gael rhyw.

Yn ei datganiad ddydd Llun, dywedodd y fenyw ei bod wedi cael trafferth gweld Brand dro ar ôl tro yn y blynyddoedd dilynol, wrth iddo ymddangos mewn ffilmiau Hollywood, ar raglenni teledu a radio, a lansio gyrfa lwyddiannus fel dylanwadwr ar-lein.

"Roedd yn anodd i mi siarad yn agored am yr hyn a ddigwyddodd oherwydd pwy yr oedd a'r dylanwad oedd ganddo," meddai.

"Doeddwn i ddim yn gwybod pwy y gallwn ymddiried ynddo na phwy y gallwn ymddiried fy nghyfrinachau iddo. Roeddwn yn teimlo, pe bawn yn rhoi gwybod amdano, na fyddai neb yn fy nghredu.

"Roedd ei enwogrwydd, ei gyfoeth a'i ddylanwad yn creu anghydbwysedd grym a oedd yn gwneud i mi deimlo'n ddi-rym.

"Nid oedd gennyf yr hyder i herio rhywun a oedd yn ymddangos mor bwerus, cyfoethog a dylanwadol.

"Roedd ei broffil cyhoeddus yn golygu ei fod yn parhau i fod yn rhan o fy mywyd, hyd yn oed pan oeddwn am symud ymlaen.

"Byddwn yn gweld cyfeiriadau ato yn y cyfryngau yn rheolaidd, gan ei gwneud yn anodd dianc rhag yr atgofion o'r hyn a ddigwyddodd."

'Gobeithio na fydd yn cael brifo rhagor o fenywod'

Dywedodd gweithiwr radio, a ddioddefodd ymosodiad rhyw gan Brand yn 2005, wrth y llys ei bod bron â thynnu ei chyhuddiad yn ôl oherwydd y straen emosiynol o fod yng nghanol achos troseddol.

"Mae Russell Brand yn ysglyfaethwr rhywiol nad yw'n dangos unrhyw edifeirwch am y ffordd y mae ei ymddygiad wedi effeithio ar fy mywyd," meddai.

"Y cyfan rwy'n ei obeithio yw na fydd yn cael brifo rhagor o fenywod."

Cyflwynodd cyn-weithiwr MTV, y gafaelodd Brand ynddi'n amhriodol mewn bar yn Soho, ei datganiad effaith ar y dioddefwr yn fyw o'r tu ôl i sgrin. 

Dywedodd wrth y barnwr: "Roeddwn yn teimlo bod fy mywyd wedi'i ohirio drwy'r holl amser hwnnw, wrth i mi aros am fy nghyfle i siarad am yr hyn a ddigwyddodd i mi."

Dywedodd ei bod wedi cael pwl o banig ar ôl gweld adroddiadau yn y cyfryngau am ei thystiolaeth yn yr achos. 

Ychwanegodd: "Yr hyn oedd hyd yn oed yn fwy brawychus oedd gweld pobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhwygo fy nghymeriad yn ddarnau, gan gredu ein bod ni i gyd yn dweud celwydd.

"Roedd hyn yn peri gofid aruthrol i mi, i'm teulu ac i'm ffrindiau, a oedd am weiddi ar eu ffonau wrth ddarllen y sylwadau."

Daeth â'i datganiad i ben drwy ddweud: "Efallai y bydd llewpard yn newid ei smotiau, ond ar ddiwedd y dydd, llewpard ydyw o hyd, nid gazelle."

Roedd Brand, sy'n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, yn eistedd yn ddiemosiwn wrth i'r erlynydd, Riel Karmy-Jones KC, gyflwyno ei dadleuon i'r barnwr.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.