DEC Cymru yn lansio apêl ariannol yn dilyn y daeargrynfeydd yn Venezuela
Mae DEC Cymru wedi lansio apêl ar ôl i dros 1,700 o bobl farw mewn daeargrynfeydd yn Venezuela yr wythnos ddiwethaf.
Ddydd Mercher, fe gafodd yr apêl i godi arian i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan y daeargrynfeydd ei lansio ar risiau'r Senedd.
Hyd yma, mae dros 1,700 o bobl wedi marw ar ôl i ddau ddaeargryn daro'r wlad ddydd Mercher diwethaf.
Roedd y daeargrynfeydd, a oedd yn mesur 7.2 a 7.5 ar y raddfa Richter, ymhlith y mwyaf nerthol yn Venezuela ers dros ganrif, gyda'r dirgryniadau i'w teimlo ar hyd a lled y wlad.
Y gred yw bod 2,500 o adeiladau wedi eu difrodi a bod 50,000 o bobl yn dal ar goll.
Mae llawer o’r rhai sydd wedi goroesi yn cysgu mewn pebyll dros dro ar y stryd ac mae angen lloches, bwyd a dŵr arnynt ar frys, meddai DEC Cymru.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif y bydd y difrod yn werth tua $6.7 biliwn.
'Anhygoel o anodd'
Dywedodd DEC Cymru eu bod nhw a'u partneriaid lleol wedi bod yn gweithio yn Venezuela ers blynyddoedd lawer.
Ers y daeargrynfeydd, maen nhw wedi darparu triniaethau meddygol brys, dosbarthu prydau a phecynnau bwyd, ac wedi sicrhau bod pobl yn gallu cael dŵr yfed glân.
Maen nhw'n dweud bod angen arian brys er mwyn cyrraedd mwy o deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio.
Yn ôl Sian Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol DEC Cymru, mae "angen dirfawr" am gymorth yn Venezuela.
"Mae hwn yn gyfnod anhygoel o anodd i’r bobl sydd wedi’u heffeithio gan y daeargrynfeydd," meddai.
"O’r ofn a’r anhrefn pan darodd y daeargrynfeydd, i’r trawma o golli anwyliaid neu weld pobl yn sownd dan adeiladau neu wedi eu hanafu.
"Mae pobl yn dod i delerau â’r ffaith bod eu bywydau cyfan wedi newid mewn eiliadau. Mae llawer wedi colli eu cartrefi a’u heiddo, a chymunedau cyfan wedi’u dinistrio."
Bydd pob punt sy'n cael ei chyfrannu gan y cyhoedd ym Mhrydain yn cael ei chyfateb punt-am-bunt gan Lywodraeth y DU drwy gynllun UK Aid Match, hyd at £2 filiwn.
